Skip to content

Cafodd ymwelwyr Hwb Fedra’i, y Rhyl, gyfle i fwynhau sesiwn Mosaigs Meddwlgarwch gwych yr wythnos hon.

Trefnwyd y digwyddiad gan Jazmine, gweithiwr prosiect yn Hwb Fedra’i yn y Rhyl. Dywedodd: “Daeth llawer o bobl i’r digwyddiad ac fe wnaethon nhw gael budd mawr o’r profiad.”

Cynhaliwyd y ‘Sesiwn Mosaigs Meddwlgarwch’ yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl; amser da iawn i ystyried sut gall meddwlgarwch ein helpu i reoli straen, emosiynau a meddyliau negyddol.

Mae gweithgareddau crefft, fel y rhai a drefnwyd gan Jazmine a’r tîm yn Fedra’i, y Rhyl, yn rhoi cyfle gwych i’r bobl sy’n ymweld â’r Hwb ‘ganolbwyntio ar y presennol’ a mwynhau amser tawel i fyfyrio ac ymlacio.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau meddwlgarwch am ddim a gynhelir yn Hwb Fedra’i yn y Rhyl, galwch draw i Adeiladau Clwyd, Stryd Clwyd, Y Rhyl, LL18 3LA. Neu ffoniwch: 07776 160 664. Does dim angen apwyntiad na chael eich cyfeirio gan feddyg, mae tîm Fedra’i bob amser yn falch o groesawu ymwelwyr hen a newydd.

Mae’r Hybiau Fedra’i ledled Gogledd Cymru yn cynnig cymorth a chyngor ar bob math o faterion i bawb mewn angen. Dyma rai o’r pynciau sy’n cael eu trafod yn aml:

  • Dyled
  • Tor-perthynas
  • Caethiwed i gyffuriau/alcohol
  • Cyflogaeth a dod o hyd i swydd
  • Profedigaeth
  • Tai
  • Unigrwydd a mwy …

Mae Hwb Fedra’i y Rhyl wedi ymestyn ei oriau yn ddiweddar i gynnig rhagor o gymorth i bobl sy’n gweithio’n llawn amser.

Mae Hwb Fedra’i y Rhyl bellach ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul, 10am – 7pm (Ar gau bob trydydd dydd Sadwrn) ac ar agor 10am – 8.30pm bob dydd Llun.

Fedra’i: Hybiau – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr