Skip to content

Fe wnaeth cynhadledd sy’n ceisio helpu cyflogwyr i gefnogi staff awtistig ddychwelyd i Brifysgol Wrecsam ar 19 Mawrth.

Yn dilyn llwyddiant cynhadledd gyntaf Cefnogi Pobl Awtistig yn y Gweithle a Thu Hwnt yn 2025, dychwelodd y digwyddiad i Brifysgol Wrecsam i adeiladu ar y syniadau a’r camau gweithredu a drafodwyd.

Roedd Paul Taylor, Rheolwr Prosiect gyda chymdeithas dai ClwydAlyn, wedi chwarae rôl allweddol yn y gwaith o sefydlu, llunio a threfnu’r gynhadledd. Roedd y rhaglen ar gyfer cynhadledd 2026 yn gyfle i gyflwyno amrywiaeth o siaradwyr gyda phrofiad personol o fyw gydag awtistiaeth, ochr yn ochr â gwaith grŵp a oedd yn canolbwyntio ar werth cynhwysiant.

Trefnwyd y gynhadledd ar y cyd rhwng Cenhadaeth Ddinesig Prifysgol Wrecsam a ClwydAlyn ac fe gafodd ei chynnal ar brif gampws y Brifysgol. Y nod yw helpu i greu cysylltiadau rhwng pobl o bob rhan o Ogledd Cymru, a helpu’r cynadleddwyr i ddysgu rhagor am bobl awtistig yn y gweithle ac ystyried camau gweithredu ymarferol y gallant eu cyflwyno i sicrhau newid gwirioneddol yn eu gweithleoedd.

  • Daeth cynrychiolwyr o dros 40 o sefydliadau cyhoeddus, preifat ac elusennol ynghyd yn y digwyddiad. Ymhlith y sefydliadau a oedd yn bresennol roedd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Conwy a Chyngor Sir Ddinbych, Cyngor Gwynedd, Grŵp Cynefin, CEF Berwyn, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cyngor Wrecsam, We Mind the Gap, Trafnidiaeth Cymru a Serco.

Pa drafodaethau gafodd eu cynnal?

Dechreuodd y gynhadledd lawn gyda’r siaradwr Andrea Davies yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r cynadleddwyr am Brosiect 100  o Straeon[1] sy’n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r prosiect yn ceisio datblygu’r cymorth cywir i bobl ifanc a’u teuluoedd pan fydd unigolion niwroamrywiol yn symud o ofal gwasanaethau plant i wasanaethau oedolion.

Yna esboniodd sefydlydd y gynhadledd, Paul Taylor, sut mae awtistiaeth yn effeithio ar weithwyr, a beth mae dealltwriaeth a chefnogaeth yn eu golygu i gydweithwyr awtistig. Pwysleisiodd pa mor bwysig yw cyfweliadau ar sail gwerthoedd, cynlluniau datblygu llwybrau, dealltwriaeth ac anogaeth.

[1] 100 o Straeon – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

“Gweithwyr awtistig sy’n wynebu’r bwlch cyflog mwyaf. Mae rhai newidiadau systemig syml y gall cyflogwyr eu cyflwyno a fyddai’n gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl niwroamrywiol; mae cynhwysiant yn golygu nad oes yn rhaid i neb wynebu anhawster.
“Mae angen i ni normaleiddio trafodaethau am niwroamrywiaeth ac awtistiaeth; a chreu rhwydwaith o bobl sy’n gallu cynnig cymorth gydag anawsterau ac amlygu cryfderau unigolion.”
Paul Taylor
Conference Founder and Project Manager, ClwydAlyn

Cyfeiriodd y siaradwr Haydn Davies at ei brofiadau fel Ffotograffydd Niwroamrywiol a dywedodd fod “cyfleoedd yn brin ac mae cael cynnig cyfle yn bwysig [i bobl awtistig]”.

Dyma rai o’r siaradwyr eraill:

  • Rebecca Phoenix, Cydlynydd Mynediad a Chynhwysiant, Trafnidiaeth Cymru: Pŵer Cynhwysiant
  • Carrie Foster, Mrs Foster o Wrecsam, Wedi torri yn eich barn chi. Fy Normal: pam mae “gwnewch fwy o ymdrech ” yn arwain at chwythu plwc awtistig.
  • Alex Swift – Eiriolwr Niwroamrywiaeth: Ailddiffinio ein bywydau: Tuag at ddealltwriaeth gymdeithasol o Niwroamrywiaeth
  • Max – We Mind the Gap – Manteision interniaethau â chymorth

Addewidion i Newid

Fel rhan o raglen y gynhadledd, bu’r cynadleddwyr yn trafod addewidion ymarferol y byddent yn gallu eu rhoi ar waith yn eu gweithleoedd, i ysgogi newid cadarnhaol ar ran pobl awtistig.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cyfweliadau ar sail gwerthoedd a darparu cwestiynau cyfweliad ymlaen llaw
  • Cyflwyno dulliau gweithio hyblyg a / neu gweithio o bell
  • Pasbort gweithle, sy’n darparu cynllun addasu gweithle personol, y mae’r unigolyn yn ei gario gydag ef ar hyd ei yrfa
  • Darparu mannau gweithio tawel
  • Cynlluniau mentora am yn ôl
  • Mwy o hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth i helpu rheolwyr a chydweithwyr ddatblygu dealltwriaeth o awtistiaeth a niwroamrywiaeth

Cynhadledd 2027 wedi’i chadarnhau

Yn dilyn yr ail gynhadledd flynyddol lwyddiannus, roedd y cynadleddwyr yn awyddus i barhau â’r cynnydd, ac mae trydedd gynhadledd eisoes yn cael ei chynllunio i drafod sut mae’r addewidion wedi troi yn gamau gweithredu ymarferol.

“Roedd y gynhadledd yn cynnig dealltwriaeth fanwl o’r heriau sy’n wynebu pobl awtistig yn y gweithle. Rydyn ni am sicrhau bod ClwydAlyn yn weithle gwbl gynhwysol, ac rydyn ni’n awyddus i greu cysylltiadau â sefydliadau eraill ac unigolion sydd hefyd wedi ymrwymo i wneud cynnydd yn y maes hwn.
“Mae’r pwyslais ar ‘Addewidion dros Newid’ wedi rhoi rhai syniadau gwych ac ymarferol i ni y gallwn eu rhoi ar waith i gefnogi’r diwylliant gwaith cynhwysol rydyn ni’n ceisio ei ddarparu bob dydd.”
Sian Williams
Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl, Diwylliant a Chyfathrebu, ClwydAlyn

Os hoffech dderbyn gwybodaeth yn y dyfodol am y Gynhadledd Cefnogi Pobl Awtistig yn y Gweithle a Thu Hwnt, anfonwch e-bost at: civic.mission@wrexham.ac.uk neu paul.taylor@clwydalyn.co.uk