Skip to content

Mae cymdeithas dai ClwydAlyn wedi creu partneriaeth â’r contractwr datblygu eiddo lleol DU Construction i ddarparu ardal ddysgu awyr agored newydd ar gyfer ysgol gynradd yn Ynys Môn.

Mae ClwydAlyn, y gymdeithas dai sydd â’i phencadlys yn Sir Ddinbych, ar y cyd â chwmni DU Construction o Gaergybi, wedi adeiladu ardal ddysgu awyr agored newydd sbon ar gyfer disgyblion Ysgol Goronwy Owen, Benllech. Mae’r offer arbenigol wedi creu ardal arbennig lle gall disgyblion archwilio, chwarae a dysgu. Cafodd yr ardal chwarae newydd ei hariannu fel rhan o amcanion gwerth cymdeithasol ClwydAlyn a’i darparu gan DU Construction, gyda’r nod o ysbrydoli plant i archwilio a darganfod, a thanio eu dychymyg a’u chwilfrydedd.

Ysgrifennodd y pennaeth, Dr Elfed Morgan Morris, lythyr twymgalon yn mynegi cymaint roedd yr ysgol yn gwerthfawrogi’r ardal newydd, gan ganmol yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar lesiant a datblygiad y plant.

“Hoffwn fynegi fy niolch mawr a diffuant am yr ardal chwarae awyr agored ragorol rydych wedi’i chreu i ni, diolch i’ch prosiect arian cymunedol. Mae eich gwaith nid yn unig wedi trawsnewid yr ardal yn ffisegol, mae wedi trawsnewid y posibiliadau o ran yr hyn gall dysgu ei olygu i’n plant.”

“Rydych chi wedi rhoi anrheg arbennig i’r plant: amgylchedd sy’n ennyn chwilfrydedd ac yn meithrin cariad tuag at yr awyr agored, amgylchedd a fydd yn siapio eu profiadau dysgu am byth. Mae hon yn waddol anhygoel, a byddwn yn ei thrysori bob amser.”
Dr Elfed Morgan Morris
pennaeth, Ysgol Goronwy Owen

Mae’r ardal yn cynnwys arwyneb glaswellt ‘pob tywydd’, caban gwyliwr, gwesty trychfilod, gwely plannu mawr, eisteddleoedd awyr agored, bwrdd sialc, îsl awyr agored a llawer mwy. Cafodd ei chynllunio’n ofalus  gan ddefnyddio offer diogel a chadarn, a fydd yn gwella cyfleoedd dysgu dychmygus ac ymarferol drwy chwarae.

 

“Rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi cydweithio â chwmni DU Construction i ddarparu’r ardal ddysgu rhagorol yma i ddisgyblion Ysgol Goronwy Owen. Rydyn ni’n credu’n gryf ei bod yn bwysig rhoi rhywbeth ystyrlon nôl i’r cymunedau lle rydyn ni’n gweithio; mae’n fraint cefnogi’r ysgol, teuluoedd lleol a’r gymuned ym Menllech.”
Daniel Brettell
Rheolwr Prosiectau Datblygu ClwydAlyn
“Mae’n anrhydedd mawr gallu darparu ardal addysg awyr agored i Ysgol Goronwy Owen a fydd nid yn unig o fudd i’r ysgol ond i gymuned leol Benllech am flynyddoedd i ddod. Mae’n rhoi boddhad mawr i ni wybod y bydd cenedlaethau o blant yn gallu defnyddio’r ardal hon i wella eu haddysg.”
James Brewster
Rheolwr Contractau DU Construction

Hefyd ym mhentref Benllech, bydd Craig y Don, datblygiad gwerth £6.5 miliwn gan ClwydAlyn, yn darparu 17 o gartrefi fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni yng nghanol Ynys Môn. Mae’r cartrefi hyn yn cael eu hadeiladu gan DU Construction ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am gartrefi Craig y Don neu i ymgeisio am le, ewch i: Craig y Don, Benllech – Clwydalyn