Skip to content

Cafodd preswylwyr cartref gofal ym Mae Colwyn gyfle arbennig i wylio rhagberfformiad o sioe diwedd tymor Rydal Penrhos yr wythnos ddiwethaf.

Roedd naw o breswylwyr oedrannus a dau aelod staff cartref gofal Merton Place wrth eu bodd i dderbyn gwahoddiad i wylio sioe Forever Treasure Island yn Ysgol Rydal Penrhos.

Mae sioe diwedd tymor yr ysgol, a oedd yn cynnwys sgript doniol a chaneuon hyfryd, yn cael ei pherfformio fel arfer ar gyfer ffrindiau a theuluoedd y disgyblion. Eleni, fodd bynnag, roedd yr ysgol wedi gwahodd preswylwyr Merton Place i fwynhau’r ymarfer gwisgoedd llawn.

Dyma’r ymarfer olaf cyn perfformio’r sioe o flaen y rhieni ac roedd popeth yn “berffaith” yn ôl Valerie Smith, Cydlynydd Gweithgareddau cartref gofal Merton Place.

“Roedden ni wrth ein bodd i dderbyn gwahoddiad i wylio’r sioe. Fe wnaeth ein preswylwyr deithio draw i neuadd yr ysgol yng nghwmni ein ffrindiau bach o’r Dosbarth Derbyn. Roedd pawb wedi mwynhau’r perfformiad gwych, a dylai’r holl blant a gymerodd ran fod yn falch iawn o’u hunain!”
Valerie Smith
Cydlynydd Gweithgareddau cartref gofal Merton Place

Yr ymweliad hwn oedd y diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu rhwng Merton Place ac Ysgol Rydal Penrhos, gan ganolbwyntio ar weithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau.

“Mae’n hyfryd gweld faint o foddhad mae’r gweithgareddau hyn yn ei roi i’n preswylwyr. Mae’r cysylltiad gyda’r plant yn codi ysbryd pawb ac mae rhannu straeon, cysylltiadau a chwerthin yn werthfawr dros ben. Diolch o galon i’r tîm yn Rydal Penrhos am ein gwahodd i’r digwyddiad hwn.”
Valerie Smith
Cydlynydd Gweithgareddau cartref gofal Merton Place
“Yma yn Rydal Penrhos, rydyn ni’n credu’n gryf yng ngwerth cymuned a chysylltiadau. Roedd croesawu preswylwyr Merton Place i’n hysgol yn bleser pur i’r disgyblion a’r staff. Roedd ein perfformiad o Our Forever Treasure Island hyd yn oed yn fwy arbennig gan ein bod wedi gallu rhannu’r achlysur gyda chynulleidfa mor werthfawrogol. Mae profiadau fel hyn sy’n pontio’r cenedlaethau wrth galon yr hyn sy’n gwneud cymuned ein hysgol mor arbennig – ac rydyn ni’n edrych ymlaen i gynnal llawer mwy o ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”
Maria Maclean
Rheolwr Derbyniadau a Marchnata Ysgol Rydal Penrhos