Cafodd Jane Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, gyfle i gyfarfod Penny Storr, Pennaeth Datblygu a Thwf ClwydAlyn, i weld drosti ei hun sut mae Grantiau Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, sy’n werth dros £30 miliwn, wedi siapio’r gwaith o ddatblygu 183 o dai fforddiadwy y mae galw mawr amdanynt yn Sir y Fflint.
Roedd y darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn yn falch iawn o groesawu Jayne Bryant AS i ddau ddatblygiad yn Sir y Fflint; Hawthorn Meadow yn Well Street Bwcle a Northern Gateway yn Garden City, Glannau Dyfrdwy.
Mae Hawthorn Meadow yn ddatblygiad cynaliadwy gwerth £20m ac mae’n cynnwys 83 o gartrefi modern fforddiadwy i deuluoedd a fydd yn cael eu dyrannu i deuluoedd lleol drwy’r Gofrestr Tai Un Llwybr Mynediad a Tai Teg. Bydd y datblygiad hefyd yn elwa ar wyth byngalo a bydd dau o’r rhain yn cynnwys addasiadau pwrpasol ac yn cael eu dyrannu i breswylwyr â gofynion hygyrchedd.
Mae datblygiad Northern Gateway yn cynnwys 100 o gartrefi newydd fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni. Mae’r prosiect adnewyddu arloesol hwn ar safle hen waith dur Shotton/Corus, ac ar ôl goresgyn sawl rhwystr hanesyddol arwyddocaol, mae’r gwaith bellach wedi’i gwblhau gyda chymorth Grant Tai Cymdeithasol gwerth £18 miliwn.
Datblygwyd y ddau gynllun gan ClwydAlyn mewn cydweithrediad â’r contractwr Castle Green Partnerships, Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru.
Adeiladau Ynni-Effeithlon sydd o fudd i Breswylwyr
Defnyddiwyd dulliau adeiladu modern i godi cartrefi effeithlon o ran ynni ar y ddau ddatblygiad, a byddant yn cyfrannu at sicrwydd ariannol hirdymor y preswylwyr.
Costau Tanwydd Is ac Arbedion Ynni
Bydd y cartrefi yn y ddau ddatblygiad yn cefnogi’r amgylchedd ac yn cynnig arbedion effeithlonrwydd o ran tanwydd ac allyriadau carbon is, gan gyfrannu at ddyfodol mwy gwyrdd. Mae pob cartref yn cynnwys y nodweddion canlynol:
- Pympiau gwres ffynhonnell aer
- Inswleiddio helaeth i golli llai o wres yn y gaeaf a gwneud y mwyaf o wres yr haf
- Paneli solar trydan
- Cartrefi wedi’u lleoli i wneud y mwyaf o ynni’r haul a golau naturiol
Creu Cymunedau, nid Cartrefi yn unig
“Mae’r ddau ddatblygiad yn safleoedd strategol hanesyddol ac mae’r prosiectau wedi cael eu cwblhau diolch i bartneriaethau cryf a phenderfyniad.
“Mae’r cynlluniau trefol hyn yn agos at gysylltiadau trafnidiaeth, gwaith a seilwaith cymdeithasol, gan gynnig cymunedau i’n preswylwyr, yn hytrach na chartrefi yn unig. Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar am y Grantiau Tai Cymdeithasol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru sydd wedi ein galluogi i adeiladu’r cartrefi fforddiadwy hyn y mae galw mawr amdanyn nhw ymhlith teuluoedd lleol.”
Mae pob cartref newydd yn Hawthorn Meadow a Northern Gateway yn bodloni ac yn rhagori ar y safonau rheoleiddio presennol, gan gynnwys Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a’r Safon Ansawdd Tai.
I gael rhagor o wybodaeth am hyn a datblygiadau eraill ClwydAlyn ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, ewch i: www.clwydalyn.co.uk/developments