Skip to content

Mae ClwydAlyn, darparwr tai cymdeithasol o Gymru, wedi cadarnhau ei fod wedi llofnodi contractau gyda Chwmni Williams Homes (Y Bala), i adeiladu 107 o gartrefi am oes, effeithlon o ran ynni, ar safle Pentref Pwylaidd Penrhos ym Mhen Llŷn, Gwynedd.

Yn ystod cam cyntaf cynllun ailddatblygu Pentref Pwylaidd Penrhos, bydd 44 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu. Mae’r cynllun hwn yn bosibl diolch i fuddsoddiad o grant gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn trafodaethau rhwng ClwydAlyn, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru. Bydd gan bob cartref newydd ar y safle bympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli solar a byddant yn cael eu codi gan ddefnyddio ‘Dulliau Adeiladu Modern’, er mwyn cynnwys cynifer o ddefnyddiau naturiol a chynaliadwy â phosibl.

Ar ôl cwblhau’r eiddo, bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i drigolion presennol Pentref Pwylaidd Penrhos a phobl ag anghenion gofal a chymorth isel a chanolig o’r gymuned leol.

Mae’r gwaith cyn-adeiladu bellach wedi’i gwblhau, ac mae’r pwyslais bellach ar gam cyntaf y gwaith adeiladu.

Er bod cysylltiad agos rhyngddynt, mae’r datblygiad hwn yn gwbl ar wahân i gynlluniau Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu cartrefi nyrsio a phreswyl newydd ar safle Penrhos. Mae prinder darpariaeth gofal dementia yn yr ardal a’r nod yw darparu 32 o welyau preswyl dementia a 24 o welyau nyrsio yng nghartref newydd Penyberth, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer gofal nyrsio dementia.

ADEILADU MEWN PARTNERIAETH

Mae Williams Homes (Y Bala) yn gontractwr lleol uchel ei barch yng Ngwynedd, a chafodd ei benodi i ailddatblygu Pentref Pwylaidd Penrhos, ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bangor.

Sefydlwyd Williams Homes yn 2003 ac mae’n arbenigo mewn adeiladu tai carbon isel, ffrâm bren, o ansawdd, ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae gan y cwmni weithdy gwaith coed sy’n cynhyrchu fframiau pren, drysau a ffenestri, ac mae’r busnes yn cyflogi gweithlu lleol o bob rhan o’r rhanbarth.

"Rwy’n falch iawn o groesawu’r cynnydd pwysig wrth i’r datblygiad tai hwn ym Mhen Llŷn symud i’r cam nesaf. Mae mynd i’r afael â’r argyfwng tai yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol i Gyngor Gwynedd—yn enwedig mewn ardaloedd fel hyn, lle mae canran uchel iawn o bobl leol wedi’u prisio allan o’r farchnad.
Trwy greu partneriaethau cryf gyda chymdeithasau tai fel ClwydAlyn, rydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy, o ansawdd, i gymunedau ledled y sir."
Cynghorydd Paul Rowlinson
Aelod Cabinet Gwynedd Tai ac Eiddo
“Fel rhan o’n hymrwymiad i ddarparu cartrefi o ansawdd, mae’n hanfodol bod ein holl bartneriaid yn chwarae rhan weithredol i gefnogi ein cymunedau.
"Gellir mynegi’r cyfrifoldeb hwn ar y cyd mewn sawl ffordd ac mae’n cael ei llywio gan ein huchelgais i roi diwedd ar dlodi yng Nghymru. Gall hynny fod drwy greu cyfleoedd gwaith, mynd i’r afael ag unigrwydd, cynorthwyo preswylwyr â’u costau tanwydd neu helpu pobl i gael gafael ar fwyd maethlon; gall yr holl ymdrechion hyn helpu ein cymunedau i ffynnu.”
Dylan Davies
Uwch Reolwr Prosiectau Datblygu
“Mae Williams Homes yn falch o weithio gyda ClwydAlyn a Llywodraeth Cymru i gyflawni’r prosiect cyffrous hwn. Byddwn yn datblygu cartrefi newydd, effeithiol o ran ynni, i gymryd lle’r hen stoc tai gan roi ystyriaeth i hanes yr hen Bentref Pwylaidd a’r trigolion presennol. Bydd y datblygiad yn creu dros 20 o swyddi i bobl leol ac yn gwneud cyfraniad i’r economi leol yn ystod y cyfnod adeiladu.”
Owain Williams
Rheolwr Gyfarwyddwr ar y Cyd, Williams Homes (Y Bala)

Mae ClwydAlyn a Williams Homes yn cydweithio er mwyn helpu pobl sy’n byw yn y gymuned i gael gwaith, hyfforddiant a phrentisiaethau. Os hoffech wybod rhagor am brofiad gwaith, lleoliadau hyfforddiant, swyddi neu brentisiaethau, mewn amrywiaeth eang o feysydd yn y diwydiant adeiladu, mae croeso i chi gysylltu â Williams Homes (Y Bala): info@williams-homes.co.uk

GWARCHOD TREFTADAETH

Mae ClwydAlyn wedi pwysleisio bod gwarchod treftadaeth Gwlad Pwyl a Chymru yn hollbwysig wrth ddatblygu’r safle. Mae CADW wedi cynnal asesiad o’r safle ac wedi penderfynu rhestru’r Groes Ryddid fel adeiledd o ddiddordeb hanesyddol a diwylliannol, er mwyn ei gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd yr eglwys a’r gerddi â muriau hefyd yn cael eu gwarchod a bydd ClwydAlyn yn gweithio gyda’r trigolion a’r gymuned leol i warchod ac amddiffyn hanes Cymru a Gwlad Pwyl ar safle Penrhos.

I gael rhagor o wybodaeth am ailddatblygu Pentref Pwylaidd Penrhos, ewch i: Pentref Pwylaidd Penrhos, Gwynedd – Clwydalyn