Skip to content
107 Cartrefi
Pentref Pwyliaid Penrhos, Penrhos, Gwynedd, LL53 7HN.
Datblygiad yn y dyfodol

Dyddiad cwblhau arfaethedig: Gaeaf 2026

Ym Medi 2020 trosglwyddodd Cymdeithas Dai’r Pwyliaid i Tai ClwydAlyn fel rhan o drefniant cyfuno. Roedd y safle, ar y pryd, yn cynnwys y cartref gofal 42 gwely, 90 o dai gwarchod, eglwys, ardal fwyta, lolfeydd cymunedol, a siop fechan.

Oherwydd oedran ac adeiladwaith y cartrefi presennol, mae llawer ohonyn nhw angen buddsoddiad sylweddol iddynt gyrraedd y safon, gan gynnwys gwelliannau i effeithlonrwydd ynni’r adeiladau. Y dewis gorau yw chwalu’r strwythurau presennol ac adeiladu cartrefi newydd effeithlon o ran ynni o safon uchel.

Gweledigaeth newydd

Darparu cartrefi o safon uchel, effeithlon o ran ynni (carbon isel) a gwasanaethau gofal iechyd mewn pentref unigryw. Bydd y datblygiad yn bennaf yn darparu cartrefi i bobl ag anghenion gofal/gofal iechyd; ond bydd hefyd yn cynnig tai fforddiadwy i bobl leol ac i bobl sy’n gweithio ar y safle yn y cartref gofal newydd.

Bydd yr holl gartrefi’n cael eu hadeiladu fel cartrefi am oes, gan alluogi preswylwyr i fyw’n annibynnol am cyn hired ag sy’n bosibl. Byddant yn cael eu dylunio fel eu bod yn addasadwy ac ymatebol wrth i anghenion y preswylwyr newid.

Bydd ClwydAlyn yn gweithio gyda phartneriaid, Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i ddynodi’r gofynion tai ar gyfer yr ardal a gall y cartrefi gael eu haddasu i fodloni’r gofynion yma.

Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

  • Pympiau gwres ffynhonnell aer
  • Paneli trydan solar
  • Batris storio trydan solar
  • Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
  • Cyfleusterau gwefru ceir trydan
  • ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
  • Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

Model gofal newydd arloesol

Mae’r holl bartneriaid, Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a ClwydAlyn, yn dal i weithio gyda’i gilydd ar fodel gofal arloesol newydd ar gyfer safle Penrhos. Mae hyn yn cynnwys adeiladu cartref gofal newydd, a fydd yn cyd-fynd â’r ddarpariaeth ar weddill y safle.

Mae 112 o gartrefi ar y safle

  • 1 x Byngalo Hygyrch 3 Ystafell Wely
  • 25 x Fflat 1 Ystafell Wely
  • 5 x Fflat 2 Ystafell Wely
  • 22 x Byngalo 2 Ystafell Wely
  • 30 x Tŷ 2 Ystafell Wely
  • 15 x Tŷ 3 Ystafell Wely
  • 2 x Tŷ 4 Ystafell Wely
  • 2 x Tŷ 4 Ystafell Wely
  • 10 x Fflat 1 Ystafell Wely 2 Unigolyn Cerdded atynt

Manteision y cartrefi


Effeithlon o ran ynni
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio’r technolegau a deunyddiau diweddaraf, i sicrhau bod eich cartref yn gost effeithiol i’w redeg.
Cefnogaeth gyfeillgar
Cefnogaeth gyfeillgar gan eich Swyddog Tai penodol.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Mae FyClwydAlyn yn wasanaeth ar-lein am ddim, diogel i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.

Y newyddion diweddaraf am y datblygiad

Gaeaf 2022
Darllenwch gylchlythyr
Gaeaf 2021
Darllenwch gylchlythyr

Y newyddion diweddaraf a datblygiadau ym Mhentref Pwyliaid Penrhos

Penrhos Polish Village
Datganiad Cymeradwyaeth i Gais Cynllunio Pentref Pwyliaid Penrhos
Rydym yn falch iawn o glywed y penderfyniad cynllunio heddiw.
Darllenwch fwy
Penrhos Polish Village
Ail-ddatblygu Pentref Pwyliaid Penrhos
Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen yn dda ar y cais cynllunio ar gyfer ail-ddatblygu Pentref Pwyliaid Penrhos.
Darllenwch fwy
polish consul general
Prif Gonswl ac Is Gonswl Pwylaidd yn ymweld â Chyngor Gwynedd
Croesawyd cyfeillion Pwyliadd i bencadlys Cyngor Gwynedd yn ddiweddar i drafod sut gellir ymgorffori cysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru a Gwlad Pwyl mewn datblygiad cyffrous ar safle Cartref Pwylaidd Penrhos yn Llŷn.
Darllenwch fwy
Penrhos Polish Village render
ClwydAlyn yn gofyn am farn am safle tai cymdeithasol
Ddoe (Dydd Llun, 1 Tachwedd) lansiodd ClwydAlyn, cymdeithas dai sy’n gwasanaethu 6 sir Gogledd Cymru, Ymgynghoriad Cyn Gynllunio er mwyn trafod cynlluniau i adeiladu tai cymdeithasol newydd ym Mhentref Pwyliaid Penrhos ger Pwllheli.
Darllenwch fwy

Fideo's

Adrodd Hanes Pentref Pwyliaid Penrhos