Skip to content

Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen yn dda ar y cais cynllunio ar gyfer ail-ddatblygu Pentref Pwyliaid Penrhos.

Ym mis Tachwedd y llynedd, lansiodd ClwydAlyn Ymgynghoriad Cyn Cais Cynllunio er mwyn trafod cynlluniau i adeiladu tai cymdeithasol newydd ym Mhentref Pwyliaid Penrhos ger Pwllheli. Bwriad yr ymgynghoriad yw casglu barn a thystiolaeth gan y cyhoedd, busnesau lleol, a phawb sydd â diddordeb i helpu ClwydAlyn i siapio dyfodol Pentref Pwyliaid Penrhos.

Aeth yr Ymgynghoriad Cyn Cais Cynllunio yn dda ac fe wnaethom gydnabod yr holl sylwadau a dderbyniwyd ac rydym wedi eu hystyried ar gyfer y cais cynllunio. bydd y cais cynllunio i adeiladu cartrefi newydd yn cael ei gyflwyno erbyn diwedd Mawrth bydd hyn yn cael ei adolygu dros gyfnod o 6 wythnos.

Y bwriad fydd i waith ddechrau yn ystod gwanwyn 2022, a’i gwblhau yn ystod haf 2023. Bydd Cam 1 yn cynnwys 44 eiddo a bydd yn canolbwyntio ar ddarparu llety i’r preswylwyr presennol.

Bydd yr eiddo yn cynnwys:

  • Fflatiau 1 ystafell wely – 25 Uned
  • Fflatiau 2 ystafell wely – 5 Uned
  • Byngalos 2 Ystafell Wely – 12 Uned
  • Tai 4 Ystafell Wely – 2 Uned

 

Daeth yn amlwg yn nigwyddiadau gwybodaeth yr Ymgynghoriad Cyn Cyflwyno Cais, fod darpariaeth gofal yn hollbwysig i’r preswylwyr a phobl yr ardal. Nod Pentref Pwyliaid Penrhos yw i ddarparu sbectrwm o ofal Mae’r holl bartneriaid, Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Clwyd Alyn wedi ymrwymo i ystyried opsiynau i adeiladu cartref gofal newydd ar y safle (yn ddarostyngedig i dderbyn hawl cynllunio a sicrhau’r arian) gyda golwg ar weithredu model newydd o ddarparu gofal. Bydd hyn yn rhan ddiweddarach o’r rhaglen i ddatblygu’r safle cyfan sydd ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar ddarparu cartrefi ar gyfer trigolion presennol y safle.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau i chi.

Am ragor o wybodaeth am yr ail-ddatblygiad ewch i: https://www.clwydalyn.co.uk/developments/penrhos-polish-village-penrhos-gwynedd.html