Skip to content

Dywedodd Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn:

 

“​Rydym yn falch iawn o glywed y penderfyniad cynllunio heddiw. Bydd y cam cyntaf o 44 cartref effeithlon o ran ynni, am oes yn cael blaenoriaeth i’r preswylwyr presennol sy’n byw ym Mhentref Pwyliaid Penrhos, a phobl ag anghenion gofal a chefnogaeth isel i ganolig o’r gymuned leol. Yn ychwanegol, mae dau gartref hefyd ar gyfer llety â chymorth i oedolion ag anableddau dysgu.

“Rydym wedi cynllunio’r datblygiad mewn tri cham i leihau’r amharu ar y preswylwyr sy’n byw ar y safle. Gall y preswylwyr aros yn eu cartrefi presennol nes bydd y cartrefi newydd yn barod ac yna penderfynu beth fydden nhw’n hoffi ei wneud, ni fydd unrhyw un yn cael ei orfodi i symud.

“Rydym wedi ymrwymo o’r dechrau y bydd datblygu cartref gofal newydd yn rhan allweddol o’r cynlluniau. Rydym yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i edrych ar ddewisiadau gwahanol fydd yn cynnal model gofal newydd flaengar ar y safle a bydd hyn yn rhan o gais cynllunio ar wahân.

“Am flynyddoedd lawer mae’r safle wedi bod yn hafan, gan roi llety hanfodol a chefnogaeth i gyn-filwyr o wlad Pwyl a arhosodd ym Mhrydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gan gynnig cartrefi i gyplau, teuluoedd a phobl hŷn. Datblygiad tymor hir yw hwn i ClwydAlyn, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid, Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ogystal â phreswylwyr a’r gymuned leol i siapio cynlluniau at y dyfodol.

“Mae’n ddealladwy bod rhai preswylwyr yn bryderus am yr ailddatblygu, ond rydym yn angerddol am gadw’r ymdeimlad cryf o gymuned sy’n bodoli ar hyn o bryd ym Mhenrhos wrth i’r safle symud i bennod nesaf ei hanes.”