Skip to content

Mae ystafell llesiant awyr agored newydd wedi cael ei chreu yng Nghartref Gofal Llys Marchan, Rhuthun, i wella iechyd meddwl a chorfforol preswylwyr a staff a chynnig man tawel a chreadigol i ymlacio, myfyrio a chysylltu ag eraill.

Datblygwyd y syniad ar gyfer yr ystafell gan y rheolwr Paula Heath a’r Uwch Ymarferydd Gofal Dydd Lesley Breeze-Axon. Roedd y ddwy yn awyddus i greu llecyn tawel yn yr awyr agored lle gallai preswylwyr ymgilio o’r drefn ddyddiol arferol a mwynhau llonyddwch a thawelwch byd natur.

Mae ymchwil yn dangos y gall treulio amser ym myd natur leihau straen a gorbryder yn sylweddol, a chodi’r hwyliau. Y darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn yw perchennog a rheolwr Llys Marchan, sy’n cynnig 10 o leoedd cofrestredig ar gyfer oedolion y mae angen gofal preswylwyr arnynt ar gyfer salwch meddwl. Bydd pob preswyliwr yn cael cyfle i elwa ar ddefnyddio’r ystafell llesiant awyr agored.

Gyda chymorth staff, tîm DIY SAS ClwydAlyn, pedwar o breswylwyr a gweithiwr y safle Kevin Marchin, cafodd yr adeilad gardd metel ei drawsnewid gan ddefnyddio cadeiriau cyfforddus, clustogau meddal, a phlanhigion. Gosodwyd drychau i adlewyrchu’r golau yn ogystal â phlanhigion gwyrdd crog ac mae’r tîm hyd yn oed wedi cynnwys bwrdd coffi, goleuadau solar ac uned storio. Y lle delfrydol i eistedd yn gyfforddus gyda phaned o de a chael seibiant.

“Mae’r ardal hon yn fwy nag ystafell, mae’n rhywle lle gall pobl wneud cysylltiadau, bod yn greadigol, neu dreulio ennyd fach dawel.

“Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu, gan gynnwys y preswylwyr, Lisa a Hien o DIY SAS, a chwaraeodd ran allweddol wrth drefnu’r prosiect; Lesley, sydd bob amser yn rhoi buddiannau’r preswylwyr yn gyntaf; a’n holl staff gwych a ddaeth draw i helpu.

“Cyn gynted ag y gwnaethon ni osod y glustog olaf ar y soffa, daeth un o’n preswylwyr draw i ddefnyddio’r ystafell yn syth. Roedd yn brofiad arbennig iawn i weld hyn ac fe wnaeth ein hatgoffa pa mor bwysig yw mentrau o’r fath, sy’n golygu cymaint i aelodau cymuned Llys Marchan.”
Paula Heath
Rheolwr, Llys Marchan
“Roedden ni wrth ein boddau i fod yn rhan o fenter mor anhygoel. Ac roedd yn wych gweld y preswylwyr yn ymweld â’r ystafell yn syth ar ôl i ni orffen y gwaith.”
Lisa Dunn
Cydlynydd DIY SAS ClwydAlyn
“Rydyn ni’n canolbwyntio ar greu awyrgylch cartrefol, lle mae ein preswylwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

“Mae defnyddio’r ystafell llesiant awyr agored newydd yn ffordd arall o annog ein preswylwyr i flaenoriaethu eu llesiant meddyliol a hybu eu taith tuag at well iechyd meddwl.”
Lesley Breeze-Axon
Uwch Ymarferydd Gofal Dydd

Mae Llys Marchan yn derbyn atgyfeiriadau newydd o ardal yr awdurdod lleol a thu hwnt ar hyn o bryd.  I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun neu i drefnu ymgynghoriad, ewch i: Llys Marchan – Clwydalyn