Croesawyd y preswylwyr i’w cartrefi newydd ar ddatblygiad Tre Angharad, Bodedern, Ynys Môn yr wythnos hon. Bydd y datblygiad newydd o 29 o gartrefi, ger Ffordd Llundain, yn helpu i fynd i’r afael â’r prinder difrifol o dai fforddiadwy ar yr ynys. Mae’r cartrefi yn addas i deuluoedd ac yn effeithiol o ran ynni, felly byddant yn lleihau costau ac yn gwella llesiant.
Cartrefi Fforddiadwy Newydd i Drigolion Ynys Môn
Adeiladwyd y datblygiad o 29 o gartrefi newydd gan DU Construction ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.
Mae’r datblygiad yn cynnig dewis o dai modern 2 a 3 ystafell wely, yn ogystal ag un byngalo 3 ystafell wely, ac mae pob un wedi’i adeiladu fel bod modd ei addasu wrth i anghenion y preswylwyr newid, yn dibynnu ar eu gofynion oedran/gofal.
Arbedion Ynni yn arwain at Filiau Tanwydd Is
Mae’r cartrefi newydd ym Modedern wedi’u dylunio i leihau gwariant y preswylwyr newydd, gan gadw biliau ynni yn isel drwy wella effeithlonrwydd tanwydd. Mae defnyddio dulliau ynni cynaliadwy yn lleihau allyriadau carbon ac yn helpu’r amgylchedd, gan wneud biliau ynni yn fwy fforddiadwy.
Defnyddir pympiau gwres ffynhonnell aer i wresogi’r cartrefi. Mae’r mesurau ecogyfeillgar eraill yn cynnwys:
- Paneli trydan solar
- Cartrefi wedi’u lleoli i fanteisio i’r eithaf ar ynni’r haul a golau naturiol
- Cyfleusterau gwefru ceir trydan
Gofalu am Fywyd Gwyllt
Er mwyn gofalu am fywyd gwyllt, mae’r datblygiad yn cynnwys sawl ffordd o gynnal rhywogaethau lleol er mwyn iddynt ffynnu ochr yn ochr â’r cartrefi newydd; mae’r rhain yn cynnwys blychau ystlumod, blychau adar a ‘llwybrau draenogod’ arloesol.
Cartrefi Cynnes, Diogel yn Gwella Llesiant
Dywedodd y preswyliwr, Siwan Owen: “Dw i’n teimlo’n lwcus iawn.
“Roeddwn i’n teimlo’n ynysig iawn yn fy hen gartref, ond mae byw yma yn newid mawr ac yn ddechrau newydd!
“Bydd y biliau yn llawer rhatach hefyd, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr i fyw yma.”
“Wrth i’r gaeaf agosáu, mae’n braf gwybod bydd biliau ynni’r cartrefi hyn yn aros mor isel â phosibl, diolch i’r defnydd o dechnolegau gwyrddach. Y gobaith yw y bydd y preswylwyr yn gweld effaith y mesurau hyn pan fyddan nhw’n derbyn eu biliau ynni.
“Rydyn ni’n dymuno’r gorau i bob teulu sy’n symud i mewn, gan obeithio y byddan nhw’n mwynhau dechrau newydd yn eu cartref newydd.”
“Mae gan Wasanaeth Tai y Cyngor ddyletswydd statudol i asesu anghenion tai ac arwain at waith partneriaeth i ddarparu tai o ansawdd yn lleol. Mae ein Strategaeth Dai 2022 ‐ 2027 yn hollbwysig wrth i ni weithio’n annibynnol, a gyda phartneriaid allweddol, er mwyn parhau i fodloni anghenion ein preswylwyr nawr ac yn y dyfodol.”
“Rwy’n falch iawn o weld bod teuluoedd lleol wedi dechrau symud i’w cartrefi newydd ar ddatblygiad Tre Angharad, Bodedern. Rydyn ni wedi gweld cynnydd sylweddol mewn prisiau tai ar Ynys Môn yn ddiweddar ac mae angen angen i ni gefnogi teuluoedd lleol nawr yn fwy nag erioed i gamu ar yr ysgol dai. Bydd y datblygiad hwn yn ein helpu i wneud hyn, gan ddod â budd i gwmnïau a’r economi leol.”
“Mae’r datblygiad yn cynnig tai fforddiadwy mae gwir eu hangen ar gymuned Bodedern, Ynys Môn, ac rydyn ni’n bwriadu adeiladu llawer mwy o dai yn y dyfodol.”
Mae pob cartref yn natblygiad Tre Angharad yn bodloni ac yn rhagori ar y safonau rheoleiddio presennol, gan gynnwys Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a Safonau Tai Gydol Oes Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad hwn a datblygiadau eraill ClwydAlyn ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, ewch i: www.clwydalyn.co.uk/developments