Mae’r landlord cymdeithasol ClwydAlyn wedi elwa ar gymorth gwerth £100,000 o’r Cynllun Rhwydwaith Effeithlonrwydd Gwres (HNES) a fydd yn helpu i wella effeithlonrwydd y rhwydwaith gwres mewn cynllun byw’n annibynnol i bobl oedrannus yn Sir y Fflint.
Ledled y Deyrnas Unedig, mae tua hanner miliwn o breswylwyr wedi’u cysylltu ag un o 12,000 rhwydwaith gwres ledled y wlad. Unwaith yn rhagor, mae HNES yn targedu isadeiledd rhwydweithiau gwres aneffeithiol gan helpu i greu rhwydweithiau cynhesach, mwy cost-effeithiol, sy’n fwy parod i’r dyfodol ar gyfer miloedd o breswylwyr.
Yng Nghymru a Lloegr, bydd tua 8,200 o breswylwyr yn elwa ar wres mwy effeithlon, cost-effeithiol, a dibynadwy diolch yn rhannol i gefnogaeth a ddarperir yn Rownd 9 y Cynllun Rhwydwaith Effeithlonrwydd Gwres (HNES).
Yn y rownd hon, dyfarnwyd gwerth dros £8 miliwn o gymorth i helpu i wella effeithlonrwydd rhwydweithiau gwres sy’n tangyflawni ledled Cymru a Lloegr. Un o’r rhai fydd yn derbyn yr arian hwn yw ClwydAlyn, darparwr tai cymdeithasol yng Ngogledd Cymru. Mae’r landlord cymdeithasol wedi derbyn £100,000 mewn Grant Cyfalaf a fydd yn cael ei ddefnyddio yn un o’i ganolfannau byw’n annibynnol yn Sir y Fflint, sef Llys Eleanor yn Shotton. Mae ClwydAlyn wedi darparu’r arian cyfatebol yn annibynnol ar gymorth HNES, gan ddyrannu’r cyfanswm ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd i rwydwaith gwres y cynllun. Derbyniodd y rhwydwaith gymorth ariannol yn ystod Rownd 6 ar gyfer astudiaeth optimeiddio, a bydd arian cyfalaf yn helpu’r sefydliad i roi’r gwelliannau a argymhellwyd ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys gosod mesuryddion gwres, glanhau’r rhwydwaith, a gosod Unedau Rhyngwyneb Gwres (HIUs) mewn cartrefi unigol.
“Mae’r astudiaeth optimeiddio a gafodd ei hariannu gan HNES wedi cynnig cyfleoedd dysgu sylweddol i ni o ran y gwelliannau y gallwn eu gwneud, nid yn unig yn Llys Eleanor, ond hefyd i’n 15 rhwydwaith gwres arall yng nghynlluniau preswyl ClwydAlyn ledled Gogledd Cymru.
“Mae’r gwaith uwchraddio hwn yn gwella effeithlonrwydd, yn lleihau’r defnydd o ynni ac yn helpu ein preswylwyr i reoli eu defnydd o wres yn well.”
“Unwaith yn rhagor, bydd miloedd o breswylwyr yn elwa ar system gwres canolog fwy dibynadwy, diolch i gymorth HNES, a bydd cartrefi ac adeiladau ledled Cymru a Lloegr yn dod yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn fwy cyfeillgar o ran carbon.”
Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Rhwydwaith Effeithlonrwydd Gwres yma: Heat Network Efficiency Scheme HNES | Gemserv Delivery Partner
Os oes gennych ddiddordeb mewn byw yn Llys Eleanor neu unrhyw un o gynlluniau byw’n annibynnol i bobl hŷn eraill ClwydAlyn yng Ngogledd Cymru, ewch i: Independent Living Schemes for older people – Clwydalyn