Skip to content

Bu staff ClwydAlyn, y gymdeithas dai o Sir Ddinbych, yn cysgu allan dros nos ar 30 Ionawr i ddangos eu cefnogaeth i’r dros 13,000 o aelwydydd digartref yng Nghymru. Maent wedi codi bron i £3,000 i gefnogi gwasanaethau digartrefedd.

Dyma’r 12fed tro i ClwydAlyn gynnal y digwyddiad blynyddol ‘Big Sleepout’ a daeth cydweithwyr o bob rhan o’r sefydliad at ei gilydd, ynghyd â sawl cymdeithas leol arall, eu teuluoedd, a ffrindiau, i gysgu allan dros nos. Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal y digwyddiad ym mis Hydref 2025, ond bu’n rhaid gohirio oherwydd Storm Amy.

Trefnwyd digwyddiad Big Sleep Out gan Lynda Williams, un o reolwyr byw â chymorth ClwydAlyn. Nod y digwyddiad yw codi ymwybyddiaeth am bobl sy’n wynebu digartrefedd, dangos cefnogaeth i’r bobl hynny sy’n cysgu’n rheolaidd ar y strydoedd a chodi arian hanfodol i helpu i ddarparu gwasanaethau cymorth digartrefedd.

Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghlwb Golff Silver Birch, Abergele, ac ymunodd llawer o bobl ‘o bell’ o’u gerddi neu siediau ledled y rhanbarth.

Mae digartrefedd yng Nghymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed, ac mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod bron i 13,500 o aelwydydd yng Nghymru wedi cael eu hasesu yn ddigartref ar hyn o bryd. Mae bron i 11,000 o bobl yn byw mewn llety dros dro.

Gall digartrefedd effeithio ar unigolion neu deuluoedd am sawl rheswm, gan gynnwys cael eu troi allan gan eu landlord, colli swydd, salwch meddyliol neu gorfforol, problemau gyda pherthnasoedd, neu drychinebau fel tanau neu lifogydd.

“Mae dros 13,000 o aelwydydd yn wynebu digartrefedd yn ein gwlad. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n cysgu allan, pobl mewn llety dros dro neu anaddas, sgwatwyr, neu bobl sy’n byw gyda theulu neu ffrindiau oherwydd nad oes ganddyn nhw eu cartref eu hunain.
“Y tu ôl i’r ystadegau mae pobl go iawn sy’n wynebu ofn, ansicrwydd a sefyllfa anniogel; maen nhw’n cael trafferth ymdopi bob dydd heb eu cartref eu hunain. Mae pawb yn haeddu cartref saff, diogel a chynnes; dyna brif neges digwyddiad Big Sleep Out.”
“Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i bawb wnaeth gymryd rhan yn Big Sleep Out ac i’r holl unigolion a sefydliadau sydd wedi cyfrannu.”
Lynda Williams
Trefnydd Big Sleep Out

Diolch yn fawr iawn hefyd i DHL am ei haelioni a chynnig arian cyfatebol i’r swm a gesglir; gan ddyblu effaith pob cyfraniad. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm yr arian sydd wedi’i godi tua £6,000 hyd yma.

Bydd yr holl arian a gesglir yn ariannu gwasanaethu digartrefedd ClwydAlyn, sy’n darparu timau ymroddedig i helpu a chefnogi pobl i symud ymlaen yn eu bywydau.

Os hoffech gyfrannu at y cyfanswm ariannol, cliciwch yma: https://www.justgiving.com/crowdfunding/lynda-williams-5

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymorth ClwydAlyn i bobl sy’n wynebu digartrefedd, ewch i: Byw â Chymorth – Clwydalyn