Mae Judith Smith, 87 oed, wedi darganfod diddordeb newydd ac annisgwyl mewn barddoni, ar ôl cael ei hysbrydoli gan ei chartref newydd yn Neuadd Maldwyn, y Trallwng. Yn ogystal â rhannu ei cherddi gyda’i theulu a ffrindiau, mae hi hyd yn oed wedi derbyn gwahoddiad i’w darllen gerbron cangen leol Sefydliad y Merched. Wrth iddi fynd ati i greu llyfr o’i cherddi, mae Judith yn dweud y bydd ei theulu a chymdogion o bosibl yn gweld bod rhai o’r dyddiau allan ac anturiaethau yn ei barddoniaeth yn gyfarwydd.
“Rwy’n deffro weithiau am 3am gyda syniad yn fy mhen, ac mae’n rhaid i mi ei roi i lawr ar bapur yr eiliad honno!”
Symudodd Judith i’w fflat newydd yn y cynllun byw’n annibynnol mewn adeilad rhestredig sydd wedi’i addasu, bron i flwyddyn yn ôl. Roedd hi wedi bod yn pendroni’n hir cyn symud yno, gan fod hynny’n golygu gadael y cartref lle’r oedd hi wedi byw gyda’i gŵr a magu ei theulu. Ond, ar ôl cyrraedd ei chartref newydd, roedd Judith yn teimlo’n gartrefol iawn ar unwaith.
Mae teimlad cymunedol iawn yma, ac roedd Judith yn mwynhau treulio amser yn yr ystafelloedd cyffredin. Fe wnaeth yr amgylchedd newydd a’r profiadau cyffredin gyda’i chymdogion gynnig ysbrydoliaeth i roi cynnig ar ei diddordeb newydd; a dechreuodd ysgrifennu am y pethau oedd yn digwydd o’i chwmpas.
“Roeddwn yn eistedd yn y lolfa pan ddaeth yr awen am y tro cyntaf”, esbonia Judith. Mae ei chasgliad o gerddi yn dal i dyfu ac yn cyfuno sawl arddull, o gerddi meddylgar a hiraethus i rai sylwadol a doniol!
Gydag anogaeth ei theulu a ffrindiau, mae atgofion a sylwadau ysgafn Judith am fywyd yn Neuadd Maldwyn wedi cael eu cydnabod am eu hiwmor a’u ffraethineb; ffordd newydd i ddathlu pennod newydd ym mywyd Judith. O ddyddiau allan ar y trên stêm i gymdeithasu gyda’i chymdogion, mae’r pethau sydd wedi ysbrydoli’r cerddi wedi ymddangos yn naturiol; ac mae’r darnau wedi dod â gwên a llawenydd i Judith, ei chymdogion newydd ac aelodau’r teulu hefyd. Rhoddodd un o’i hwyrion lyfr nodiadau arbennig iddi, lle gall gofnodi ei holl gerddi gwreiddiol.
“Mae’n anhygoel meddwl nad yw Judith erioed wedi barddoni o’r blaen; mae ganddi ddawn mor naturiol! Rydyn ni’n edrych ymlaen i glywed beth fydd hi’n ei ysgrifennu nesaf!”
Mae Judith yn byw yng nghynllun byw’n annibynnol diweddaraf ClwydAlyn ym Mhowys; cymuned gefnogol i breswylwyr hŷn sy’n rhoi cyfle i bobl fyw a chymdeithasu mewn lleoliad cymunedol.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun byw’n annibynnol, ewch i: Neuadd Maldwyn – Clwydalyn
Neuadd Maldwyn, Ffordd Hafren, Y Trallwng, SY21 7FE.