Skip to content

Mae Tai ClwydAlyn ar y cyd â Chyngor Sir Powys yn datblygu 66 o fflatiau 1 a 2 y stafell wely hunangynhwysol ar rent, i unigolion 60 oed a hŷn gyda gofal neu angen cefnogaeth wedi ei asesu. Rhoddir blaenoriaeth i breswylwyr ardal Powys neu sydd â chysylltiadau clos ag ardal Powys. Bydd y cynllun yn cynnwys cyfleusterau cymunedol ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau, bwyty, man parcio ar y safle ac ardaloedd wedi eu tirlunio.

Bydd y gwasanaethau rheoli tai a’r gwasanaethau ategol yn cael eu darparu gan ClwydAlyn, tra bydd Cyngor Sir Powys yn cymryd cyfrifoldeb am ddarparu gofal cartref ar y safle.

Mae Neuadd Maldwyn yn adeilad rhestredig Gradd II ac fe’i defnyddiwyd gan Gyngor Sir Powys hyd 2021 a chyn hynny roedd yn brif swyddfa i Gyngor Dosbarth a Sir Drefaldwyn. Mae’r adeilad yn dyddio yn ôl i ddechrau’r 20fed ganrif a bydd ei addasu yn fflatiau yn cael ei gyflawni mewn modd llawn cydymdeimlad gan gadw ei gyfoeth o nodweddion gwreiddiol. Yn sefyll yng nghanol y Trallwng, mae Neuadd Maldwyn yn agos ar droed i gyfleusterau a siopau lleol. Mae’n hawdd ei gyrraedd trwy’r cysylltiadau teithio cyfleus.

Neuadd Maldwyn

Digwyddiad Rhannu Gwybodaeth

Dydd Iau, 18 Ebrill 2024. Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 10:00am a 2pm. Yn: Y Hen Ysgol, Berriew, Powys, SY21 8PB.

Sut i Ymgeisio

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael eich ystyried i rentu fflat yng nghynllun byw’n annibynnol i bobl hŷn Neuadd Maldwyn, llenwch y ffurflen gais (gweler isod) a’i dychwelyd i ni cyn gynted â phosibl trwy’r manylion cyswllt canlynol:

Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid, ClwydAlyn, 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD.

E-bost: neuadd.maldwyn@clwydalyn.co.uk

Gallwch lenwi’r ffurflen gais ar-lein hefyd; ond o brofiad ac adborth gan bobl eraill, rydym yn argymell llenwi copi papur.

Wrth ymgeisio ar-lein gofalwch bod gennych y Darllenydd Adobe neu PDF diweddaraf. Lawrlwythwch y ffurflen gais, ei chadw ar eich cyfrifiadur, yna gallwch ychwanegu eich manylion / ei llenwi yn electronig. Ar ôl ei llenwi a’i chadw, anfonwch
hi at: help@clwydalyn.co.uk

Fideos:

Fflatiau arddangos
Byw’n annibynnol i bobl hŷn
Neuadd Maldwyn - Ionawr 2024
Neuadd Maldwyn - Hydref 2023
Neuadd Maldwyn - Mai 2023
Neuadd Maldwyn - Mawrth 2023

Ffurflen ymholiad

Enw(Required)
E-bost(Required)
Neges
pdf
Gwnewch gais nawr i fyw yn Neuadd Maldwyn
Lawrlwythwch