Mae pump o gymdeithasau tai y gogledd – Adra, Cartrefi Conwy, ClwydAlyn, Grŵp Cynefin a Tai Gogledd Cymru wedi dod ynghyd i hybu pwysigrwydd cymuned a diwylliant Cymru yn yr Eisteddfod yr Urdd eleni – a gynhelir ar 23-29 Mai ar Faes Sioe Amaethyddol Ynys Môn.
Mae prif gymdeithasau tai y gogledd yn awyddus iawn i gefnogi cyfraniad pobl ifanc i’r Gymraeg, y celfyddydau, llenyddiaeth, cerddoriaeth a mwy yng Nghymru, felly maent wedi dod ynghyd i greu stondin ac arddangosfa sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Mae croeso i deuluoedd a phlant ymweld â’r stondin yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd.
Mae’r pum cymdeithas dai o’r gogledd, sy’n rheoli ac yn berchen ar dros 25,000 eiddo ledled gogledd a chanolbarth Cymru, yn estyn croeso cynnes i ymwelwyr yn ystod Eisteddfod yr Urdd. Bydd eu harddangosfa yn cydnabod rôl hanfodol cymdeithasau tai wrth ddarparu cartrefi diogel a chynnes i breswylwyr a pob math o wasanaethau cymorth hanfodol, gan gynnwys gofal i’r henoed, cymorth i’r digartref, gwasanaethau llesiant, cymorth iechyd meddwl, a llawer mwy.
Bydd digwyddiadau a gweithgareddau am ddim yn cael eu cynnal ar y stondin, gan gynnwys:
- Paentio wynebau
- Gweithdai cerddoriaeth rhyngweithiol gyda Band Bwced
- Cyfle i drechu’r ‘Seiclon’ rhyngweithiol ac ennill gwobrau
Ydych chi’n ystyried eich dewisiadau gyrfa?
Yn ogystal â chreu cyfres o ddigwyddiadau i bobl o bob oedran sy’n cydnabod gwerth ‘cymuned’ a ‘chartref,’ bydd y sefydliadau hefyd yn hyrwyddo manteision gyrfa ym maes tai. Byddant yn rhannu gwybodaeth am y swyddi sydd ar gael yn y sefydliadau, yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol am recriwtio a chyflogaeth.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen i gyfarfod ymwelwyr, cystadleuwyr, a phreswylwyr o bob rhan o Gymru, a chael cyfle i fwynhau adegau arbennig gyda’n cymunedau. Ac wrth gwrs, os oes gan bobl ddiddordeb mewn gwybod rhagor am y cyfleoedd swyddi yn ein sefydliadau, mae croeso iddyn nhw gael sgwrs gyda’r tîm i glywed am yr amrywiaeth enfawr o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn y sector tai!”
Dywedodd Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, “Mae Grŵp Cynefin yn edrych ymlaen i gefnogi Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, a byddwn ni ynghyd â chymdeithasau tai eraill o ogledd a chanolbarth Cymru yn bresennol ar y maes. Rydyn ni’n edrych ymlaen i groesawu cannoedd o bobl ifanc i’n stondin a dangos bod y sector tai yn cynnig gyrfaoedd sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau – o weithio fel plymer, i swyddi ym maes adeiladu, cyllid neu farchnata. Does dim gwell llwyfan na gŵyl ieuenctid deithiol fwyaf Ewrop i rannu’r stori hon ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf trwy weithio gyda’n gilydd fel sector.”
Dywedodd Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru, “Mae Eisteddfod yr Urdd yn ddathliad gwych o ddiwylliant Cymru a’r genhedlaeth nesaf, ac rydyn ni’n falch o fod yn rhan o’r Eisteddfod eleni yn Ynys Môn. Mae’r ffaith ein bod ni’n rhannu stondin gyda Grŵp Cynefin, ClwydAlyn, Cartrefi Conwy ac Adra, yn dangos pa mor gryf yw’r trefniadau gweithio mewn partneriaeth ledled gogledd a chanolbarth Cymru, a’r rhan bwysig mae cymdeithasau tai yn ei chwarae i gefnogi pobl ifanc a lleoedd. Mae’n gyfle gwych i ymwneud â phobl ifanc, teuluoedd, a chymunedau ledled y rhanbarth.”
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra, “Gan fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yma yn y gogledd eleni, rydyn ni wedi ymuno â phedair cymdeithas dai arall i ddangos gwaith ein cymdeithasau ledled y rhanbarth. Mae’n gyfle gwych i ddathlu ein heffaith gadarnhaol ar ein cymunedau, dangos pa mor bwysig yw darparu mwy o dai fforddiadwy i bobl leol, a phwysleisio ein hymrwymiad ar y cyd i ateb y galw cynyddol am dai fforddiadwy. Dyma’r amser perffaith hefyd i ddiolch i bawb sydd wedi gweithio gyda ni dros y blynyddoedd a’n cefnogi.”
I gael rhagor o wybodaeth am Eisteddfod yr Urdd eleni, ewch i: Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau | Urdd Gobaith Cymru
Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiadau ar y stondin, gan gynnwys paentio wynebau, gweithdai cerdd rhyngweithiol, crefftau, defnyddio’r stondin i ymarfer a chyfle i drechu’r ‘Seiclon!