Mae ClwydAlyn, y darparwr tai cymdeithasol o Sir Ddinbych, wedi cyhoeddi bod tri o gydweithwyr wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau pwysig y sector, gan gydnabod eu hymroddiad, arweinyddiaeth, eu hagwedd drugarog a’u heffaith ar y maes gwasanaethau tai a phobl.
Mae’r Prif Weithredwr, Clare Budden, wedi cael ei henwebu ar gyfer gwobr ‘Cyflawniad Oes’ Housing Heroes, mewn cydnabyddiaeth o’i hymroddiad hirdymor i gefnogi cymunedau ledled Gogledd Cymru /Glannau Mersi a Swydd Gaerhirfryn. Mae Clare wedi gweithio ym maes llywodraeth leol a chymdeithasau tai am 40 mlynedd. Fel Prif Swyddog Gweithredol cymdeithas dai ClwydAlyn ers 2018, mae ei henw da wedi dod yn gyfystyr â chreu newid i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb; yn benodol, cenhadaeth sefydliadol flaengar ClwydAlyn ‘Gyda’n Gilydd i roi Diwedd ar Dlodi’. O dan arweinyddiaeth Clare mae ClwydAlyn wedi datblygu blaenoriaethau i gyflawni’r canlynol; rhoi diwedd ar ddigartrefedd, gan gynnwys rhoi’r gorau i droi pobl allan o’u cartrefi, sicrhau bod preswylwyr yn gallu byw mewn cartrefi cynnes a chael mynediad at fwyd da. Mae’r enwebiad hefyd yn cydnabod gwasanaeth Clare dros y blynyddoedd fel aelod o wahanol fyrddau yn y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus.
Yn y cyfamser, mae Sian Williams wedi cael ei henwebu yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl, Diwylliant a Chyfathrebu yn y categori ‘Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y Flwyddyn’ gan ddetholwyr Gwobrau HRD. Mae Sian yn ymroddedig i arwain gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n galluogi gwerth ac sy’n cefnogi cydweithwyr ar draws y sefydliad i gyflawni cenhadaeth ClwydAlyn a darparu gwasanaethau gwych i breswylwyr.
O dan arweinyddiaeth Sian, mae ClwydAlyn yn canolbwyntio ar greu amgylchedd lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u grymuso a’u bod yn gallu gwireddu eu potensial llawn, a hynny yn seiliedig ar ymrwymiad cadarn i werthoedd sefydliadol.
Mae Sian yn credu bod ei henwebiad yn adlewyrchu ymdrechion ar y cyd ei thîm a’i chydweithwyr ar draws ClwydAlyn. Gyda’i gilydd mae eu hagwedd broffesiynol a’u hymroddiad i gefnogi eraill wedi bod yn allweddol wrth lunio diwylliant cadarnhaol a chynhwysol, a chael effaith ystyrlon ar draws y sefydliad, i breswylwyr ac i gefnogi cenhadaeth y sefydliad.
Gan gwblhau’r triawd o enwebiadau, mae Paul Taylor, Rheolwr Prosiect, wedi cael ei gydnabod yng nghategori ‘Cydweithiwr Ysbrydoledig’ Housing Heroes. Dangosodd Paul sgiliau arweinyddiaeth ac agwedd benderfynol; gan greu lle i gydweithwyr deimlo fod pobl yn eu deall ac yn eu gwerthfawrogi. Dechreuodd y cyfan pan sefydlodd ‘Hafan Pawb’, grŵp cefnogi cyfoedion ar gyfer cydweithwyr niwroamrywiol, a gydag ymroddiad ac agwedd dosturiol Paul mae hyn wedi tyfu i rymuso cymuned gyfan yn ClwydAlyn, yn ogystal â sefydliadau a busnesau eraill yn lleol a thu hwnt yng ngogledd Cymru. Diolch i’w angerdd a’i ymroddiad i gynhwysiant, mae Paul wedi ysbrydoli newid ystyrlon ac ysgogi sgyrsiau pwysig; gan sicrhau ac annog cymorth a dealltwriaeth i gydweithwyr niwroamrywiol i feithrin gwir deimlad o berthyn.
Mae’r tri cydweithiwr yn rhannu angerdd i greu newid parhaus a gwella bywydau cydweithwyr, preswylwyr a phobl sy’n byw ym mhob rhan o ogledd Cymru. Mae’r enwebiadau hyn yn adlewyrchu agweddau’r tri, sy’n seiliedig ar werthoedd, a’u hymrwymiad cadarn i fyw ac arwain yn unol â gwerthoedd ‘Ymddiriedaeth, Gobaith a Charedigrwydd.’
I gael rhagor o wybodaeth am ClwydAlyn, ewch i: www.clwydalyn.co.uk