Rydym yn y broses o ysgrifennu at ein holl breswylwyr i roi gwybod iddynt am ddiweddariad pwysig i’w contractau meddiannaeth. Rhag ofn bod gennych unrhyw gwestiynau am y diweddariad hwn, roeddem am rannu gwybodaeth berthnasol gyda chi.
Beth yw’r diweddariad i’r contractau meddiannaeth?
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno amddiffyniadau cyfreithiol newydd i bobl sy’n rhentu eu cartrefi yng Nghymru. Daeth y newidiadau hyn i rym ar 1 Mehefin 2026 ac maent yn gymwys i bob landlord. O ganlyniad, mae’n ofynnol i ni ddiweddaru contractau meddiannaeth i adlewyrchu’r hawliau cyfreithiol newydd hyn.
Beth sy’n newid?
Mae’r diweddariad yn cyflwyno amddiffyniadau newydd i sicrhau:
- Nad yw pobl yn cael eu trin yn annheg oherwydd eu bod yn derbyn budd-daliadau, a
- (lle bo’n gymwys) bod gan bobl hawliau cliriach i blant i fyw yn y cartref neu ymweld ag ef
Bydd pob un o’n preswylwyr yn derbyn gwybodaeth sy’n esbonio’r newidiadau yn fanwl, yn benodol i’w math o gontract.
Beth mae hyn yn ei olygu i’n preswylwyr?
Mae’r newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn awtomatig gan y gyfraith a does dim angen i breswylwyr wneud dim.
Bydd contractau presennol yn parhau yn ôl yr arfer, a bydd y diweddariadau hyn yn cael eu hychwanegu. Mae hawliau ein preswylwyr yn cael eu cryfhau a’u hesbonio, nid eu lleihau.
Beth yw’r camau nesaf i breswylwyr?
Gofynnir i bob preswyliwr ddarllen y wybodaeth rydym wedi’i rhannu gyda nhw. Yna, dylid cadw’r wybodaeth hon mewn man diogel gyda’r contract meddiannaeth, rhag ofn y bydd angen cyfeirio ati yn y dyfodol.
Beth ddylech ei wneud os oes gennych ragor o gwestiynau
Weithiau gall dogfennau cyfreithiol ymddangos yn gymhleth neu godi pryder, ac o ystyried hyn, efallai bydd rhai preswylwyr am gael cymorth gennym i ddeall y wybodaeth neu ofyn cwestiynau am y diweddariad.
Rydym wedi paratoi dogfen Cwestiynau Cyffredin, sydd wedi cael ei hanfon gyda’r ddogfennaeth, a all fod o gymorth. Gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth mewn fformatau eraill os oes angen.
O na allwch chi ddod o hyd i ateb i gwestiwn penodol yn y daflen Cwestiynau Cyffredin, mae ein cydweithwyr gwasanaeth cwsmeriaid wedi derbyn yr holl wybodaeth i ateb eich cwestiynau. Rydym yn annog preswylwyr sy’n dymuno cael rhagor o wybodaeth i gysylltu â ni yn y ffordd arferol.
Gall preswylwyr gysylltu â’u Swyddog Tai hefyd i gael unrhyw esboniad pellach o’r wybodaeth.
Cysylltwch â ni drwy ffonio/e-bostio: 0800 183 5757 neu help@clwydalyn.co.uk am y diweddariad hwn neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am eich contract meddiannaeth.
Cwestiynau Cyffredin – Newidiadau i’ch Contract Meddiannaeth
Sicrwydd pwysig
Mae’r diweddariad hwn yn cryfhau eich hawliau, ac nid yw’n newid eich tenantiaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno amddiffyniadau cyfreithiol newydd i bobl sy’n rhentu eu cartrefi yng Nghymru. Daeth y newidiadau hyn i rym ar 1 Mehefin 2026 ac maent yn gymwys i bob landlord.
Mae’n ofynnol i ni ddiweddaru eich contract meddiannaeth i adlewyrchu’r newidiadau hyn.
Mae eich contract yn cael ei ddiweddaru i gynnwys amddiffyniadau cyfreithiol ychwanegol.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Amddiffyniad rhag cael eich trin yn annheg oherwydd eich bod yn derbyn budd-daliadau.
- Mewn rhai achosion, hawliau cliriach i blant fyw yn eich cartref neu ymweld ag ef.
Mae’r union fanylion wedi’u hesbonio yn yr Hysbysiad Amrywio rydych wedi’i dderbyn.
Na fydd. Nid yw’r diweddariad hwn yn effeithio ar eich rhent.
Nac oes. Mae’r newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn awtomatig yn ôl y gyfraith, felly does dim angen i chi wneud dim.
Nac ydy. Mae eich contract meddiannaeth presennol yn parhau.
Dim ond y telerau cyfreithiol newydd sy’n cael eu hychwanegu — mae popeth arall yn aros yr un fath.
Mae’r newidiadau yn golygu:
- Ni allwch chi gael eich trin yn annheg oherwydd eich bod yn yn erbyn budd-daliadau
- (Lle bo’n gymwys) mae gennych hawliau cliriach i blant fyw gyda chi neu ymweld â’ch cartref
Mae’r amddiffyniadau hyn yn helpu i sicrhau bod pob preswyliwr yn cael ei drin yn deg ac yn gyson.
Na fydd. Bydd y rhan fwyaf o breswylwyr ddim yn sylwi ar unrhyw newid o ddydd i ddydd.
Prif nod y diweddariad yw sicrhau bod eich contract yn adlewyrchu’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf ac yn amddiffyn eich hawliau.
Os gwelwch yn dda:
- Darllenwch yr Hysbysiad Amrywio
- Cadwch y dogfennau mewn man diogel gyda’ch contract meddiannaeth
Rydym yma i’ch helpu.
Os hoffech i ni esbonio unrhyw beth, cysylltwch â ni: 0800 183 5757 neu help@clwydalyn.co.uk
Gallwn hefyd ddarparu’r wybodaeth hon mewn fformatau gwahanol os oes angen.