Mae’r gwaith o ailddatblygu Hen Bentre Pwylaidd (neu Pentref Pwylaidd Penrhos), yng nghanol Gwynedd, y bu aros mawr amdano, wedi cyrraedd carreg filltir bwysig, gan fod cyfle bellach i ymweld â’r cartref arddangos yn y cynllun byw’n annibynnol. Cyn bo hir bydd Cam Un y datblygiad yn gartref i 42 o bobl dros 55 oed; ac mae disgwyl i’r gwaith ddod i ben erbyn y gaeaf 2026.
Mae Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a ClwydAlyn, yn dal i gydweithio ar fodel gofal arloesol newydd ar gyfer y safle ym Mhen Llŷn, lle bydd pwyslais ar ddarparu cartrefi o ansawdd uchel ac effeithlon o ran ynni, a gwasanaethau iechyd a gofal modern. Fesul cam, bydd yr ailddatblygiad yn cymryd lle’r holl lety ar y safle dros gyfnod o rhwng tair a phum mlynedd.
Bydd cam cyntaf datblygiad Hen Bentre Pwylaidd yn darparu cartrefi byw’n annibynnol ym Mhen Llŷn ger Pwllheli ar gyfer pobl 55 oed a throsodd sydd ag angen gofal a chymorth wedi’i asesu (Gofal Ychwanegol). Mae preswylwyr presennol a darpar breswylwyr nawr yn cael cyfle i weld y tu mewn i gartref arddangos y datblygiad. Mae’r datblygiad newydd, a fydd yn croesawu’r preswylwyr cyntaf yn ystod y gaeaf 2026, wedi cael ei ddylunio’n ofalus i ddiwallu’r angen cynyddol am dai fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl hŷn yng Ngwynedd.
Cartrefi i Bobl Hŷn yng Ngwynedd
Wrth i boblogaeth hŷn Gwynedd gynyddu, felly hefyd mae pwysigrwydd cynllunio ar gyfer dyfodol annibynnol; gan alluogi preswylwyr hŷn i wneud yn fawr o’r cyfle i fyw bywydau hwy ac iachach.
Bydd Hen Bentre Pwylaidd yn cynnig cymysgedd o fflatiau a bynaglos modern, felly gall preswylwyr gadw eu hannibyniaeth tra’n elwa ar sicrwydd cymorth a gofal ar y safle os oes angen; gan roi tawelwch meddwl i unigolion a’u teuluoedd.
Fel y gwelir yn y fflat arddangos, bydd y cartrefi yn cynnwys nodweddion dylunio arloesol sy’n hybu hygyrchedd, annibyniaeth, a llesiant. Hefyd, mae technolegau effeithlon o ran ynni yn sicrhau bod y cartrefi yn gynnes, wedi’u hinswleiddio’n dda ac yn fforddiadwy i’w cynnal.
“Mae cynlluniau fel hyn yn chwarae rôl hanfodol mewn cymunedau gwledig, drwy gyfuno cartrefi hygyrch â gwasanaethau cymorth a chyfleoedd i greu cysylltiadau cymdeithasol.
“Rydyn ni’n falch dros ben o weithio ar y cynllun arloesol hwn gyda’n partneriaid Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Llywodraeth Cymru a Williams Homes (Bala) Ltd, i sicrhau y gall pobl ddal i fyw yn eu cymuned am gyfnod hwy.”
Beth yw Cynlluniau Byw’n Annibynnol neu Ofal Ychwanegol?
Mae cynlluniau byw’n annibynol fel hyn (sydd weithiau’n cael eu galw’n gynlluniau ‘Gofal Ychwanegol’) yn cael eu cydnabod yn gynyddol am eu heffaith gadarnhaol ar lesiant corfforol a meddyliol preswylwyr.
Dyma rai o’r nodweddion a manteision eraill:
- Preswylwyr yn cadw eu hannibyniaeth
- Mae byw mewn cymuned yn cynyddu rhyngweithio cymdeithasol
- Llai o unigedd ac unigrwydd
- Mae gan breswylwyr fynediad at ofal a /neu gymorth os oes angen
- Safonau adeiladu uchel
- Cartrefi cynnes wedi’u hinswleiddio’n dda
- Effeithlonrwydd ynni yn golygu biliau tanwydd mwy fforddiadwy
- Rheolwr cynllun a staff ar y safle
- Prydau dyddiol ar gael yn y bwyty ar y safle
- Gellir darparu gofal cartref ar sail angen wedi’i asesu, drwy Gyngor Gwynedd
- System larwm personol i roi tawelwch meddwl
- Cyfleusterau cymunedol ar gyfer hamdden ac adloniant
Mae Hen Bentre Pwylaidd yn rhoi cyfle i breswylwyr newydd a darpar breswylwyr symud i fyw i gartrefi modern, newydd sbon. Perchennog a gweithredwr y safle yw’r landlord cymdeithasol ClwydAlyn. Yn dilyn yr ailddatblygiad presennol, bydd y cynllun yn dal i weithredu fel ‘Tai Gofal Ychwanegol.’
Gweld y tu mewn i’r Cartref Arddangos Newydd
Yn unol â Chynllun Gweithredu Gwynedd Oed Gyfeillgar, mae’r cartrefi newydd pwrpasol hyn yn ddiogel ac yn gysurus:
https://youtu.be/OFZs39yo9cQ?si=64_9kHxVNZ9LjwVo
Mae Cartref Gofal Newydd yn agor cyn bo hir hefyd
Mae Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau bod cynlluniau yn mynd rhagddynt i adeiladu cartref gofal nyrsio ar yr un safle.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Gwynedd yn bwrw ymlaen â chynlluniau a fydd yn arwain at gyflwyno cais cynllunio ffurfiol ar gyfer y cartref gofal, a disgwylir y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn 2027, yn amodol ar dderbyn y caniatâd angenrheidiol.
Bydd y cartref gofal nyrsio a phreswyl arfaethedig yn darparu 56 o welyau, wedi’u dylunio i fodloni safonau rheoleiddio modern, gyda darpariaeth en-suite llawn a nodweddion sy’n deall dementia.
Mae Cyngor Gwynedd yn rhagweld y bydd y cartref gofal newydd yn barod yn 2029.
I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiad parhaus Hen Bentre Pwylaidd, ewch i:
Hen Bentre Pwylaidd, Gwynedd – Clwydalyn
Hen Bentre Pwylaidd