Mae preswyliwr cynllun byw’n annibynnol lleol wedi darganfod teimlad o bwrpas newydd ar ôl ymgymryd â’r cyfrifoldeb o ofalu am ardd gymunedol.
Symudodd Brian Greenway, 74 oed i Neuadd Maldwyn ym mis 1 Mai 2025. Mae Brian wedi byw gydag anabledd cerdded am lawer o flynyddoedd ond nid oedd ganddo fynediad hygyrch yn ei hen gartref. Felly, roedd wrth ei fodd pan symudodd i lety pwrpasol Neuadd Maldwyn lle gall symud yn annibynnol unwaith eto a defnyddio ei ffrâm gerdded i fynd am dro.
Un o ddiddordebau pennaf Mr Greenway ers talwm oedd garddwriaeth ac roedd wrth ei fodd yn tyfu llysiau, ffrwythau a blodau hardd. Ond, oherwydd ei amgylchiadau byw blaenorol nid oedd hyn wedi bod yn bosibl.
Diolch i grant gan Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaeth rhwng ClwydAlyn, perchnogion Neuadd Maldwyn, a Gorsaf Dân y Trallwng Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, cafodd darn o dir diffaith ei droi yn ardd gymunedol. Mr Greenway oedd yr unigolyn delfrydol i ymgymryd â’r prosiect a defnyddio ei wybodaeth arbenigol a’i brofiad o arddio am dros 40 mlynedd i roi bywyd newydd i’r ardd.
Mae Mr Greenway i’w weld yn yr ardd gymunedol bob dydd, yn gofalu am y llysiau a’r ffrwythau sy’n cael eu rhannu gyda’r cymdogion a phreswylwyr eraill y gymuned, aelodau’r gwasanaeth tân a phobl sy’n galw heibio am sgwrs.
“Roeddwn i’n teimlo’n reit ddiflas, yn isel iawn. Ond ers i mi symud i Neuadd Maldwyn, mae wedi bod yn wych. Dw i’n fwy hyderus, a dw i wrth fy modd yn sgwrsio gyda’r bobl sy’n mynd heibio’r ardd ac sydd am wybod beth sy’n digwydd yma.
“Mae’n anhygoel bod rhywun yn gallu creu rhywbeth mor wych mewn ardal mor fach. Mae bron iawn popeth yma wedi cael ei dyfu o had. Dw i wedi dechrau meddwl beth hoffwn ei blannu y flwyddyn nesaf, a dw i’n edrych ymlaen yn barod.”
Mae’r ardd yn cynnwys pump gwely plannu uchel a thwnnel plannu bach. Plannwyd ychydig o goed ffrwythau ifanc yno hefyd, a bydd y rhain yn dwyn ffrwyth mewn blynyddoedd i ddod.
Mae’r cnydau organig wedi bod yn werth eu gweld. O ffrwythau meddal fel mafon a mefus, i radish, letys, betys, courgettes, ffa, brocoli a gwahanol fathau o berlysiau. Yn y twnnel plannu mae Mr Greenway wedi tyfu cnwd da o domatos, yn ogystal â phuprau gwyrdd a hyd yn oed ychydig o tsilis jalapeno! Ac yn amgylchynu’r cyfan mae lliwiau llachar blodau’r haul a gold Ffrainc sy’n helpu i gadw plâu draw o’r cynnyrch.
Mae preswylwyr lleol yn mwynhau galw heibio a gweld y gwelyau yn llawn blodau; ac mae plant yn dod yno i weld y ffrwythau’n tyfu a chasglu aeron a llysiau. Ac mae Mr Greenway bob amser yn mwynhau rhannu ei wybodaeth am dyfu bwyd.
“Rydyn ni wedi gweld newid mawr yn Brian ac mae’n enghraifft wych o’r hyn sy’n bosibl pan fydd pobl yn teimlo eu bod mewn cysylltiad â phobl eraill a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.
“Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Cadwch Gymru’n Daclus am y gwelyau uchel a’r twnnel plannu. A diolch hefyd i bawb yn yr orsaf dân am eu cefnogaeth werthfawr a pharhaus gyda phrosiect yr ardd gymunedol. A diolch wrth gwrs i Brian am y gwaith gwych mae’n ei wneud i sicrhau bod yr ardd gymunedol yn llwyddiant ysgubol!”
“Roedden ni eisiau creu rhywle croesawgar, cynhwysol a hygyrch i bawb, ac rydyn ni’n falch ein bod yn gallu rhannu’r ardd gyda’r gymuned. Rydyn ni wrth ein bodd fod Mr Greenway a phreswylwyr eraill Neuadd Maldwyn yn defnyddio’r ardd ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld yr ardd yn tyfu ac yn ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.”
“Byddai’n wych petai rhywun ifanc o’r dref yn dod draw i helpu; buaswn i wrth fy modd yn rhannu’r holl bethau dw i wedi’u dysgu dros y blynyddoedd.”
Mae Gardd Gymunedol Trallwg y tu allan i’r orsaf dân ar Ffordd Hafren, gyferbyn â chynllun byw’n annibynnol Neuadd Maldwyn: Neuadd Maldwyn – Clwydalyn
Gardd Gymunedol yn y Trallwng