Dyddiad cwblhau: Haf 2027
Bydd y datblygiad £19 miliwn hwn yn darparu 80 o gartrefi fforddiadwy, newydd, effeithlon o ran ynni, yn Gladstone Way, Penarlâg. Mae’r cartrefi yn cael eu hadeiladu gan Castle Green Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru.
Mae’r cymysgedd o gartrefi yn cynnwys fflatiau 1 ystafell wely, a thai 2, 3 a 4 ystafell wely. Bydd y cartrefi yn cael eu hadeiladu fel cartrefi am oes a byddant wedi’u dylunio fel bod modd eu haddasu’n hawdd os bydd anghenion y preswylwyr yn newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol am gyfnod hwy. Bydd y cartrefi yn cael eu dyrannu drwy Gofrestr Tai Un Llwybr Mynediad Sir y Fflint a Tai Teg.
Bydd y cartrefi newydd hyn yn rhagori ar y safonau rheoleiddio presennol: Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a Safonau Mannau a Chartrefi Prydferth Llywodraeth Cymru.
Nod ClwydAlyn yw mynd i’r afael â thlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith gall cartrefi sy’n llai effeithlon o ran ynni ei chael ar iechyd a llesiant pobl. Adeiladwyd y cartrefi newydd hyn gan ddefnyddio technolegau gwyrdd a dyluniadau arloesol, felly maent yn eithriadol o effeithlon o ran ynni ac yn elwa ar y nodweddion canlynol:
- Pympiau gwres ffynhonnell aer
- Paneli trydan solar
- Tai wedi’u lleoli i fanteisio i’r eithaf ar wres yr haul a golau naturiol.
- ‘Dulliau Adeiladu Modern,’ sy’n defnyddio cynifer o ddefnyddiau naturiol a chynaliadwy â phosibl.
- Prynu defnyddiau gan wneuthurwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl-troed carbon yn fach.
Gall y cartrefi hyn wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu’r preswylwyr i warchod yr amgylchedd, gan arbed ynni gwerthfawr ac arian yn y pen draw hefyd.
Mae 80 o gartrefi ar y safle hwn
- 20 o Fflatiau 1 ystafell wely
- 31 o Dai 2 ystafell wely
- 25 o Dai 3 ystafell wely
- 4 o Dai 4 ystafell wely
Tir oddi ar Gladstone Way, Penarlâg