Skip to content
80 Cartrefi
Ash Lane, Mancot, Sir y Fflint. CH5 2BR
Ar y gweill

Dyddiad cwblhau: Haf 2027

Bydd y datblygiad £19 miliwn hwn yn darparu 80 o gartrefi fforddiadwy, newydd, effeithlon o ran ynni, yn Gladstone Way, Penarlâg.  Mae’r cartrefi yn cael eu hadeiladu gan Castle Green Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru.

Mae’r cymysgedd o gartrefi yn cynnwys fflatiau 1 ystafell wely, a thai 2, 3 a 4 ystafell wely. Bydd y cartrefi yn cael eu hadeiladu fel cartrefi am oes a byddant wedi’u dylunio fel bod modd eu haddasu’n hawdd os bydd anghenion y preswylwyr yn newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol am gyfnod hwy. Bydd y cartrefi yn cael eu dyrannu drwy Gofrestr Tai Un Llwybr Mynediad Sir y Fflint a Tai Teg.

Bydd y cartrefi newydd hyn yn rhagori ar y safonau rheoleiddio presennol: Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a Safonau Mannau a Chartrefi Prydferth Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw mynd i’r afael â thlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith gall cartrefi sy’n llai effeithlon o ran ynni ei chael ar iechyd a llesiant pobl. Adeiladwyd y cartrefi newydd hyn gan ddefnyddio technolegau gwyrdd a dyluniadau arloesol, felly maent yn eithriadol o effeithlon o ran ynni ac yn elwa ar y nodweddion canlynol:

  • Pympiau gwres ffynhonnell aer
  • Paneli trydan solar
  • Tai wedi’u lleoli i fanteisio i’r eithaf ar wres yr haul a golau naturiol.
  • ‘Dulliau Adeiladu Modern,’ sy’n defnyddio cynifer o ddefnyddiau naturiol a chynaliadwy â phosibl.
  • Prynu defnyddiau gan wneuthurwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl-troed carbon yn fach.

Gall y cartrefi hyn wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu’r preswylwyr i warchod yr amgylchedd, gan arbed ynni gwerthfawr ac arian yn y pen draw hefyd.

Mae 80 o gartrefi ar y safle hwn

  • 20 o Fflatiau 1 ystafell wely
  • 31 o Dai 2 ystafell wely
  • 25 o Dai 3 ystafell wely
  • 4 o Dai 4 ystafell wely

Manteision y cartrefi


Effeithlon o ran ynni
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio’r technolegau a deunyddiau diweddaraf, i sicrhau bod eich cartref yn gost effeithiol i’w redeg.
Cefnogaeth gyfeillgar
Cefnogaeth gyfeillgar gan eich Swyddog Tai penodol.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Mae FyClwydAlyn yn wasanaeth ar-lein am ddim, diogel i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.
80 new energy efficient, affordable homes in Gladstone Way, Hawarden.

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw yn Well Street, Bwcle, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Sir y Fflint. Dilynwch y ddolen isod i ymgeisio.
Ymgeisiwch Rŵan