Mae preswylwyr sy’n byw gyda dementia yng Nghartref Gofal Llys y Waun, Y Waun ger Wrecsam, wedi elwa ar ystafell synhwyraidd groesawgar, braf. Agorodd Ystafell Synhwyraidd y cartref ar ddiwedd mis Medi, diolch i arian grant cymunedol The Cadbury Foundation. Mae’r ystafell yn cynnig lleoliad braf i breswylwyr a staff ymlacio, creu cysylltiadau, defnyddio eu synhwyrau a mwynhau’r holl adnoddau sydd yno.
Diolch i grant cymunedol hael gan gynllun ‘Eich Elusen, Eich Dewis’, The Cadbury Foundation, dewiswyd Llys y Waun i dderbyn £5,000. Roedd y rheolwr Jane Humphreys yn gwybod yn syth beth fyddai’n fwyaf manteisiol i’r 66 o breswylwyr yn y cartref.
“Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i’r Cadbury Foundation ac i Ian Evans sy’n gweithio yn y ffatri Cadbury leol, am enwebu Llys y Waun. Mae’r staff a finnau wedi gweithio’n galed i roi trefn ar yr ystafell ac mae’r ystafell orffenedig yn wych.”
Mae’r ystafell gwbl hygyrch yn agor byd o bosibiliadau. Gall preswylwyr ymweld â’r ystafell gyda’u gofalwyr neu berthnasau i fwynhau’r naws dawel ac amlsynhwyraidd.
Un o’r prif atyniadau yw tiwb swigod mawr, sy’n cyfuno symudiad araf, golau sy’n newid lliw, ac ysgogiadau gweledol. Mae’r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys:
- Taflunydd sy’n creu profiad gweledol trochol ar y nenfwd
- Technoleg arogleuon sy’n deffro atgofion.
- Panel Golau Rhyngweithiol sy’n cael ei weithredu gan sain
- Eitemau cyffyrddadwy a gweadog sy’n cynnig profiadau synhwyraidd gwahanol
- Dau gi bach robotig realistig, sy’n ymateb i symudiad a chyffyrddiad
- Ardal atgofion synhwyraidd, sy’n cynnwys cynnyrch ac eitemau y byddai’r preswylwyr wedi’u defnyddio flynyddoedd yn ôl
Mae Richard, un o’r preswylwyr, wedi mwynhau defnyddio’r panel golau a sain sy’n ymateb i’r llais; mae wedi bod yn canu rhai o’i hoff ganeuon i ysgogi’r sioe oleuadau ryngweithiol.
Mae Olive wedi mwynhau’r teimlad o lonyddwch sydd i’w gael wrth eistedd a gwylio’r tiwb swigod yn newid lliw.
Roedd preswyliwr arall, Rosie, wrth ei bodd yn treulio amser gyda’r ci bach robotaidd, a wnaeth ddeffro atgofion am gŵn teuluol, a dod â gwên i’w hwyneb ar unwaith.
Sut gall Amgylcheddau Synhwyraidd fod o fudd i Bobl sy’n byw gyda Dementia?
- Lleihau gorbryder trwy gynnig amgylchedd tawel a llonydd sy’n gallu helpu preswylwyr i ymlacio a theimlo’n ddiogel.
- Cefnogi llesiant emosiynol trwy greu cyfleoedd i gael cysur, mwynhâd a theimladau cadarnhaol.
- Deffro atgofion a gwella ymgysylltiad trwy weld, clywed, teimlo ac arogli eitemau cyfarwydd.
- Gwella cwsg a’r gallu i ymlacio trwy helpu unigolion i ymlacio, yn enwedig pan maent yn teimlo’n aflonydd neu’n ofidus.
- Darparu ysgogiadau synhwyraidd wedi’u teilwra i anghenion unigol, gan helpu preswylwyr i barhau i ddangos diddordeb yn eu hamgylchedd a chael teimlad o gysylltiad.
Yn y dyfodol, mae’r tîm yn Llys y Waun yn gobeithio agor yr Ystafell Synhwyraidd i’r gymuned ehangach, a’r bwriad yw gwahodd ysgolion lleol, meithrinfeydd, grwpiau cymorth niwroamrywiaeth neu anabledd neu unrhyw un arall fyddai’n elwa ar y profiad i ymweld.
I gael rhagor o wybodaeth am Llys y Waun, ewch i: Llys y Waun – Clwydalyn
Neu i weld adolygiadau diduedd diweddar, ewch i: Cartref gofal Llys y Waun, Maes y Waun, Y Waun, Wrecsam LL14 5ND | 177 o adolygiadau