Skip to content

Mae preswylwyr sy’n byw gyda dementia yng Nghartref Gofal Llys y Waun, Y Waun ger Wrecsam, wedi elwa ar ystafell synhwyraidd groesawgar, braf. Agorodd Ystafell Synhwyraidd y cartref ar ddiwedd mis Medi, diolch i arian grant cymunedol The Cadbury Foundation. Mae’r ystafell yn cynnig lleoliad braf i breswylwyr a staff ymlacio, creu cysylltiadau, defnyddio eu synhwyrau a mwynhau’r holl adnoddau sydd yno.

Diolch i grant cymunedol hael gan gynllun ‘Eich Elusen, Eich Dewis’, The Cadbury Foundation, dewiswyd Llys y Waun i dderbyn £5,000. Roedd y rheolwr Jane Humphreys yn gwybod yn syth beth fyddai’n fwyaf manteisiol i’r 66 o breswylwyr yn y cartref.

Esboniodd Jane: “Mae llawer o’n preswylwyr yn byw gyda dementia, felly mae cael cyfle i ddod i gysylltiad â sain, golau a gweld a chyffwrdd gwrthrychau cyfarwydd yn gallu gwella ansawdd eu bywydau yn fawr iawn. Rydyn ni wedi darparu gweithgareddau synhwyraidd yn Llys y Waun ers blynyddoedd, ond mae cael cyfle i greu Ystafell Synhwyraidd bwrpasol wedi gwireddu breuddwyd.

“Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i’r Cadbury Foundation ac i Ian Evans sy’n gweithio yn y ffatri Cadbury leol, am enwebu Llys y Waun. Mae’r staff a finnau wedi gweithio’n galed i roi trefn ar yr ystafell ac mae’r ystafell orffenedig yn wych.”
Jane Humphreys
rheolwr

Mae’r ystafell gwbl  hygyrch yn agor byd o bosibiliadau. Gall preswylwyr ymweld â’r ystafell gyda’u gofalwyr neu berthnasau i fwynhau’r naws dawel ac amlsynhwyraidd.

Un o’r prif atyniadau yw tiwb swigod mawr, sy’n cyfuno symudiad araf, golau sy’n newid lliw, ac ysgogiadau gweledol. Mae’r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys:

  • Taflunydd sy’n creu profiad gweledol trochol ar y nenfwd
  • Technoleg arogleuon sy’n deffro atgofion.
  • Panel Golau Rhyngweithiol sy’n cael ei weithredu gan sain
  • Eitemau cyffyrddadwy a gweadog sy’n cynnig profiadau synhwyraidd gwahanol
  • Dau gi bach robotig realistig, sy’n ymateb i symudiad a chyffyrddiad
  • Ardal atgofion synhwyraidd, sy’n cynnwys cynnyrch ac eitemau y byddai’r preswylwyr wedi’u defnyddio flynyddoedd yn ôl

 

“Mae’n wych gweld y preswylwyr yn elwa ar yr ystafell synhwyraidd. Rydyn ni’n gallu teilwra’r profiad i anghenion unigol y preswyliwr, ac mae digon o le yma ar gyfer cadeiriau olwyn neu welyau.”
Nicola Hughes
Cydlynydd Gweithgareddau

Mae Richard, un o’r preswylwyr, wedi mwynhau defnyddio’r panel golau a sain sy’n ymateb i’r llais; mae wedi bod yn canu rhai o’i hoff ganeuon i ysgogi’r sioe oleuadau ryngweithiol.

Mae Olive wedi mwynhau’r teimlad o lonyddwch sydd i’w gael wrth eistedd a gwylio’r tiwb swigod yn newid lliw.

Roedd preswyliwr arall, Rosie, wrth ei bodd yn treulio amser gyda’r ci bach robotaidd, a wnaeth ddeffro atgofion am gŵn teuluol, a dod â gwên i’w hwyneb ar unwaith.

“Mae llawer o’n preswylwyr yn byw gyda dementia, felly maen nhw’n gallu cael trafferth cyfathrebu, ond mae’r cyfleoedd hyn i greu cysylltiadau, ymgysylltu’n gymdeithasol a chael mwynhâd yn hynod o bwysig. Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gallu darparu’r profiadau hyn i bawb sy’n byw yn Llys y Waun.”
Jane Humphreys
rheolwr

Sut gall Amgylcheddau Synhwyraidd fod o fudd i Bobl sy’n byw gyda Dementia?

  • Lleihau gorbryder trwy gynnig amgylchedd tawel a llonydd sy’n gallu helpu preswylwyr i ymlacio a theimlo’n ddiogel.
  • Cefnogi llesiant emosiynol trwy greu cyfleoedd i gael cysur, mwynhâd a theimladau cadarnhaol.
  • Deffro atgofion a gwella ymgysylltiad trwy weld, clywed, teimlo ac arogli eitemau cyfarwydd.
  • Gwella cwsg a’r gallu i ymlacio trwy helpu unigolion i ymlacio, yn enwedig pan maent yn teimlo’n aflonydd neu’n ofidus.
  • Darparu ysgogiadau synhwyraidd wedi’u teilwra i anghenion unigol, gan helpu preswylwyr i barhau i ddangos diddordeb yn eu hamgylchedd a chael teimlad o gysylltiad.

Yn y dyfodol, mae’r tîm yn Llys y Waun yn gobeithio agor yr Ystafell Synhwyraidd i’r gymuned ehangach, a’r bwriad yw gwahodd ysgolion lleol, meithrinfeydd, grwpiau cymorth niwroamrywiaeth neu anabledd neu unrhyw un arall fyddai’n elwa ar y profiad i ymweld.

I gael rhagor o wybodaeth am Llys y Waun, ewch i: Llys y Waun – Clwydalyn

Neu i weld adolygiadau diduedd diweddar, ewch i: Cartref gofal Llys y Waun, Maes y Waun, Y Waun, Wrecsam LL14 5ND | 177 o adolygiadau