Skip to content

Mae cartref gofal Llys Marchan yn nhref Rhuthun yn cynnig 10 lle preswyl i oedolion y mae angen cymorth iechyd meddwl arnynt. Mae staff y cartref pwrpasol wedi ymroi i gynnig gofal o’r safon uchaf a chyfeillgarwch i breswylwyr. Yr wythnos hon, cawsant ymweliad arbennig gan bedwar oen bach del, wythnos oed yn unig.

Nid pawb sy’n cael cyfle i fwydo oen bach! Felly roedd preswylwyr, staff, ac ymwelwyr  Llys Marchan wrth eu boddau i gyfarfod yr anifeiliaid bach blewog! Pedwar oen, wyth diwrnod oed yn unig, a ddaeth â phawb at ei gilydd ar gyfer achlysur arbennig iawn!

Mae’r ddau oen dyn a gwyn yn perthyn i frîd sioe o’r enw Valais Blacknose ac ŵyn Texel yw’r rhai gwyn. Roedd y preswylwyr a’r ymwelwyr wedi doti at ba mor ddel a chwareus oedd yr ŵyn a pha mor gyfeillgar oedden nhw wrth gael eu bwydo. Ac roedd pawb wedi rhyfeddu i weld pa mor gryf oedden nhw wrth sugno o’r botel!

Ceri Owen, Dirprwy Reolwr Llys Marchan, yw perchennog yr ŵyn, ac mae hi’n eu cadw ar ei thyddyn. Er mai ychydig dros wythnos oed yn unig yw’r ŵyn, maent wedi dechrau tyfu cyrn yn barod!

“Mae rhoi cyfleoedd i’n preswylwyr ryngweithio fel hyn yn bwysig iawn. Cafodd pob preswyliwr gyfle i gyffwrdd yr ŵyn a’u bwydo â photel. Roedd yn therapiwtig iawn ac yn hyfryd i’w weld!
“Yn ogystal â bwydo a chyfarfod yr ŵyn, fe wnaeth y preswylwyr fwynhau gofyn cwestiynau a dysgu am y gwahaniaethau rhwng y bridiau. Roedd y buddion cyffredinol yn amlwg gan fod y preswylwyr mor ofalgar wrth ryngweithio â’r ŵyn, ac roedd hyn hefyd yn wir am rai o’r plant a oedd wedi ymweld â’r cartref. Fe wnaeth yr ymweliad ysgogi llawer o gysylltiadau hyfryd wrth i’r preswylwyr, ymwelwyr a staff sgwrsio â’i gilydd a threulio amser gyda’r ŵyn.
Mae pawb yn dal i siarad am y profiad heddiw! Rydym yn ffodus iawn fod Ceri yn cadw anifeiliaid ac wedi rhoi cyfle i ni rannu’r profiad hwn gyda hi.”
Paula Heath
Rheolwr, Llys Marchan
“Roedd yr ŵyn yn llawer o hwyl ac yn chwareus iawn.”
Resident
Llys Marchan
“Roedd yn wych eu gweld yn rhedeg o gwmpas y lle i gyd!”
Resident
Llys Marchan

Yn Llys Marchan, mae llawer o’r preswylwyr yn elwa ar dreulio amser gydag anifeiliaid a rhyngweithio â nhw. Mae Sparkles y merlyn Shetland yn ymwelydd cyson. Mae’r cartref hefyd yn aml yn croesawu ymweliadau gan gŵn tawel sy’n berchen i ffrindiau ac aelodau’r teulu.

Mae’r staff yn gobeithio y bydd modd trefnu rhagor o ymweliadau gan y ffrindiau bach blewog yn y dyfodol!

I gael rhagor o wybodaeth am Llys Marchan, ewch i: Llys Marchan – Clwydalyn