Mae Sandy Murray o gymdeithas dai ClwydAlyn, sydd â’i phencadlys yn Llanelwy, wedi cael ei chydnabod fel prif gyfarwyddwr cyllid rhanbarthol y rhanbarth yng Ngwobrau Cyfarwyddwr Cyllid y Flwyddyn 2025, a gynhaliwyd yn Lerpwl yr wythnos ddiwethaf.
Enillodd Sandy Murray, Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau, wobr Cyfarwyddwr Cyllid y Flwyddyn, Rhanbarth Gogledd Cymru, mewn cydnabyddiaeth o’i harweinyddiaeth ariannol gadarn gyda’r darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn.
Cynhaliwyd Gwobrau Cyfarwyddwr Cyllid y Flwyddyn 2025 yn y Crowne Plaza Lerpwl ar 13 Tachwedd 2025. Roedd y digwyddiad yn gyfle i anrhydeddu arweinwyr ariannol rhagorol o Lannau Merswy, Sir Gaerhirfryn, Sir Gaer, Gogledd Cymru a Warrington.
Mae’r gwobrau yn cydnabod rheolaeth ariannol gadarn, mewnwelediad strategol ac ymrwymiad cyfarwyddwyr cyllid, a’u rhan allweddol wrth ysgogi llwyddiant busnesau ledled y rhanbarth. Mae ClwydAlyn yn cyflogi tua 700 o bobl, felly mae’n gyflogwr mawr yn lleol. Mae gan y sefydliad drosiant blynyddol o £68 miliwn ac mae ei raglen ddatblygu bresennol yn werth £300 miliwn. Mae Mrs Murray yn arwain swyddogaethau cyllid, llywodraethu, caffael, TG a thrawsnewid busnes y sefydliad – meysydd hollbwysig sy’n sicrhau llwyddiant a chynaliadwyedd hirdymor.
“Yn ôl y beirniaid, roedd y meddylfryd fasnachol a’r teimlad cryf o bwrpas ac arweinyddiaeth, ynghyd â diffuantrwydd a thrugaredd wedi gwneud argraff fawr arnyn nhw. Mae’r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ethos ein sefydliad. Mae ymddiriedaeth, gobaith a charedigrwydd wrth galon ein dull gweithredu ac rwyf mor falch fod y beirniaid wedi gweld hyn.
“Rwy’n cael fy ysgogi gan arbedion effeithlonrwydd; oherwydd po fwyaf effeithlon y gallwn fod, y mwyaf o wasanaethau y gallwn eu darparu a’r mwyaf o bobl y gallwn eu helpu. Rwy’n meddwl am hynny’n aml iawn. Faint o bobl gallwn ni eu hatal rhag dod yn ddigartref neu eu helpu i symud allan o lety dros dro anaddas? Mae’n bwysig iawn i mi ac i bawb yn ClwydAlyn.”
“Mae’r wobr hon yn adlewyrchu gwaith gwych y tîm a phwrpas, gwerthoedd, a diwylliant ein sefydliad.”
I gael rhagor o wybodaeth am ClwydAlyn, ewch i: www.clwydalyn.co.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Cyfarwyddwr Cyllid y Flwyddyn, ewch i: Finance Director of the Year Awards