Pleserau’r Gwanwyn – Llys Marchan yn croesawu ymwelwyr blewog!
Mae cartref gofal Llys Marchan yn nhref Rhuthun yn cynnig 10 lle preswyl i oedolion y mae angen cymorth iechyd meddwl arnynt. Mae staff y cartref pwrpasol wedi ymroi i gynnig gofal o’r safon uchaf a chyfeillgarwch i breswylwyr. Yr wythnos hon, cawsant ymweliad arbennig gan bedwar oen bach del, wythnos oed yn unig.