Wrth i’r gwaith o ailddatblygu Pentref Pwylaidd Penrhos fynd rhagddo, derbyniwyd cadarnhad yn ddiweddar y bydd y cynllun ‘Cartrefi Gofal Ychwanegol’ yn cynnig cymorth gofal 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ac y bydd cymorth ar gael ar unwaith petai ei angen ar y preswylwyr.
Mae’r cartrefi newydd ym Mhentref Pwylaidd Penrhos wedi cael eu dylunio er mwyn caniatáu i breswylwyr fyw yn eu fflatiau a byngalos eu hunain, yn ddiogel ac yn gynnes, gyda gofal cartref ar gael yn ôl yr angen.
Mae hen edrych ymlaen at gwblhau’r gwaith o ailddatblygu Pentref Pwylaidd Penrhos yng nghanol Gwynedd, yn gymuned unigryw i bobl hŷn. Yn y gorffennol, roedd y safle yn gartref i gyn-filwyr, awyrenwyr, gweithwyr y llynges a sifiliaid Pwylaidd a gafodd eu dadleoli ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Cartrefi Gofal Ychwanegol mewn Amgylchedd Diogel a Chysurus
Mae disgwyl i’r cartrefi cyntaf gael eu cwblhau yn ystod y gaeaf 2026, gan roi cyfle i breswylwyr presennol a newydd symud i gartrefi modern, newydd sbon a fydd yn cael eu rhedeg gan y perchennog, y landlord cymdeithasol ClwydAlyn. Ar ôl cwblhau’r ailddatblygiad presennol, bydd y cynllun yn dal i weithredu fel cynllun ‘Cartrefi Gofal Ychwanegol’ gan gynnig cyfleusterau byw’n annibynnol mewn eiddo preswyl modern ac ynni-effeithlon i 107 o bobl dros 55 oed. Disgwylir y bydd y gwaith o adeiladu holl gartrefi ClwydAlyn wedi’i gwblhau erbyn yr haf 2027.
I breswylwyr presennol a newydd, mae hyn yn golygu y byddant nid yn unig yn elwa ar fyw yn eu fflatiau a’u byngalos eu hunain, ond y byddant hefyd yn gallu manteisio ar bob math o gyfleusterau a gwasanaethau pwrpasol i bobl hŷn. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth gofal ar y safle i’r preswylwyr hynny y mae ei angen arnynt, a gwasanaeth arlwyo a chyfleusterau cyffredin ar gyfer cymdeithasu, mwynhau eu diddordebau ac adloniant.
Beth yw Cartrefi Gofal Ychwanegol?
Argraff arlunydd o Bentref Pwylaidd Penrhos ar ôl ei ailddatblygu.
Wrth i’r boblgaeth hŷn gynyddu ledled Gwynedd, felly hefyd y mae pwysigrwydd cynllunio ar gyfer dyfodol annibynnol, fel y gall preswylwyr hŷn fwynhau byw’n hwy ac yn iachach.
Mae cartrefi gofal ychwanegol yn rhoi cyfle i’r preswylwyr fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain, gan fod yn dawel eu meddwl fod cymorth ar gael, os a phan fydd ei angen.
Gall preswylwyr fyw bywydau llawn mewn cymuned groesawgar, lle mae cymorth, gofal a chyfleusterau tai yn dod ynghyd ar un safle pwrpasol, gyda thîm rheoli profiadol wrth law.
Nodweddion Allweddol Pentref Pwylaidd Penrhos
- Mae preswylwyr yn byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, wedi’u rheoli gan ClwydAlyn.
- Gofal 24/7 gyda system larwm bersonol i roi tawelwch meddwl.
- Gall Cyngor Gwynedd ddarparu gofal cartref ar sail angen wedi’i asesu.
- Mae preswylwyr yn cael cymorth ymarferol a’u hannog i aros yn annibynnol.
- Rheolwr Cynllun a staff ar y safle i helpu preswylwyr i reoli eu tenantiaeth.
- Mae preswylwyr yn byw mewn cartrefi diogel a chynnes sy’n cael eu cynnal yn dda.
- Mae prydau ar gael bob dydd yn y bwyty ar y safle.
- Efallai bydd preswylwyr yn gymwys i dderbyn budd-dal tai ar gyfer costau rhenti neu daliadau gwasanaeth, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau ariannol.
“Trwy gynnig cymysgedd o fflatiau a byngalos rydyn ni’n rhoi dewis i’n preswylwyr, tra’n sicrhau bod eu cartrefi newydd yn ddiogel a chynnes, yn effeithlon o ran ynni, ac wedi’u dylunio i ymateb i unrhyw newidiadau yn eu hanghenion.
“Mae’r cartrefi hyn mewn cymuned wledig, groesawgar, felly mae cyfleusterau a gofal 24/7 ar gael i’r rhai y mae ei angen arnynt. Ein nod yw sicrhau bod holl breswylwyr Pentref Pwylaidd Penrhos yn teimlo’n ddiogel, a’u bod yn derbyn cefnogaeth ac yn gallu cadw mewn cysylltiad â’u cymuned.
“Rydyn ni’n falch o weithio gyda’n partneriaid Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Llywodraeth Cymru a Williams Homes (Bala) Ltd, i sicrhau bod cam un yn cael ei gwblhau erbyn y gaeaf 2026.”
“Bydd y cartrefi Gofal Ychwanegol newydd hyn yn helpu preswylwyr hŷn i fyw’n annibynnol, gan wybod fod gofal a chymorth wrth law pan fo’r angen. Bydd y datblygiad yn golygu y gall mwy o bobl fwynhau’r sefydlogrwydd a sicrwydd a ddaw o fyw mewn cartref diogel, cynnes o ansawdd da.”
Cynnydd y Datblygiad ac Edrych i’r Dyfodol
Mae’r gwaith ar Gam Un datblygiad Pentref Pwylaidd Penrhos (44 o gartrefi fforddiadwy, effeithlon o ran ynni) yn mynd rhagddo’n dda.
Mae’r fideo byr hwn yn dangos y cynnydd a wnaed rhwng yr haf a’r gaeaf 2025
Cadarnhau Cartref Gofal Newydd
Er bod cysylltiad agos rhyngddynt, mae’r gwaith o ddatblygu cartrefi gofal ychwanegol ClwydAlyn yn gwbl ar wahân i gynlluniau Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i adeiladu cartref gofal ar safle Penrhos.
Mae Cyngor Gwynedd yn bwrw ymlaen â chynlluniau a fydd yn arwain at gyflwyno cais cynllunio ffurfiol ar gyfer y cartref gofal yn ystod y gwanwyn 2026. Rhagwelir y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn 2027, yn amodol ar dderbyn y caniatâd angenrheidiol.
Bydd y cartref gofal preswyl a nyrsio yn darparu 32 o welyau dementia preswyl a 24 o welyau nyrsio. Mae hyn yn cynnwys wyth o welyau nyrsio dementia, wedi’u dylunio i safonau rheoleiddio modern, gyda darpariaeth en-suite llawn a nodweddion sy’n addas i bobl gyda dementia.
Y gobaith yw y bydd y cartref gofal newydd yn barod i groesawu ei breswylwyr cyntaf yn 2029.
I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiad Pentref Pwylaidd Penrhos, ewch i: Pentref Pwylaidd Penrhos, Gwynedd – Clwydalyn
Artist's Impressions - Redevelopment of Penrhos Polish Village