Mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad gwerth £6.5 miliwn gan ClwydAlyn yng Nghraig y Don, Benllech, a fydd yn darparu 17 o gartrefi newydd, gyda rhenti fforddiadwy.
Yng nghanol Ynys Môn, mae 17 o gartrefi newydd yn helpu i leihau’r prinder cynyddol o lety rhent cymdeithasol fforddiadwy sydd ar gael i deuluoedd lleol. Mae darparu mannau fforddiadwy i bobl fyw yn hanfodol i gymunedau ledled Ynys Môn. Y contractwr lleol, DU Construction, fydd yn adeiladu’r cartrefi hyn y mae galw mawr amdanynt, a hynny ar ran y darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru. Bydd datblygiad Craig y Don yn cynnig cymysgedd o dai dwy, tair a phedair ystafell wely, a byngalos dwy a thair ystafell wely. Bydd y cartrefi yn cael eu dyrannu’n deg drwy’r Gofrestr Tai Cyffredin.
Defnyddir dulliau adeiladu modern i godi’r cartrefi cynnes, diogel, o ansawdd uchel, gan sicrhau y byddant yn effeithlon o ran ynni, yn rhad i’w cynnal, ac yn cynnwys nodweddion cynaliadwy iawn.
Lle bo’n bosibl, defnyddir defnyddiau a gafwyd yn lleol, ynghyd a gweithlu a chyflenwyr lleol, gan gryfhau’r cysylltiadau cymunedol, cefnogi busnesau a rhoi hwb i gyfleoedd gwaith yn yr ardal.
Mae llawer o deuluoedd yn yr ardal yn aros am rywle addas i fyw, a hynny am rent fforddiadwy. Bydd y cartrefi hyn yn galluogi’r trigolion i gynnal eu cysylltiadau â’u cymuned leol, gan fyw, gweithio a chyfrannu at yr ardal sy’n gartref iddynt.
“Trwy ddarparu’r cartrefi newydd hyn, gallwn roi cyfle i 17 o deuluoedd lleol greu bywyd newydd gyda sylfaen diogel a chadarn.
“Yn ogystal â hyn, mae nodweddion cynaliadwy ein cartrefi yn golygu bydd y trigolion yn elwa ar filiau ynni is a bydd hyn yn helpu eu llesiant a’u hiechyd."
“Mae’r prosiect yn adlewyrchu’r blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2023–2028, ac rydym yn falch o weld cynnydd yn cael ei wneud er budd ein cymunedau.”
“Mae’r datblygiad hwn yn darparu cartrefi fforddiadwy y mae galw mawr amdanynt yn y gymuned leol.”
Diolch i dechnegau adeiladu blaengar, mae cartrefi newydd ClwydAlyn yn cael eu hadeiladu i ymateb yn effeithiol i newid hinsawdd. Mae’r cartrefi yn elwa ar gostau rhedeg isel gan olygu y gall y trigolion gael arbedion uniongyrchol ar eu gwariant parhaus.
Bydd rhai o’r mesurau i sicrhau defnydd effeithlon o ynni yn natblygiad Craig y Don yn cynnwys:
- Systemau gwresogi carbon isel arloesol, fel pympiau gwres ffynhonnell aer a daear
- ‘Dulliau Adeiladu Modern’, sy’n rhoi pwylais ar ddefnyddio cynifer o ddeunyddiau adeiladu naturiol a chynaliadwy â phosibl.
- Canfod defnyddiau gan wneuthurwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl-troed carbon cysylltiedig yn isel.
- Lleoli’r cartrefi mewn man sy’n manteisio i’r eithaf ar wres yr haul a golau naturiol, a defnyddio ynni solar.
- Systemau awyru stac goddefol sy’n mesur ansawdd yr aer yn awtomatig ac yn addasu’r cyfradd cyfnewid aer, gan leihau allyriadau carbon gweithredol.
- Cyfleusterau gwefru car trydan.
- Gwneud y defnydd gorau o fannau gwyrdd i gynyddu bioamrywiaeth.
I gael rhagor o fanylion am y cartrefi yn natblygiad Craig y Don neu sut i ymgeisio, ewch i: Craig y Don, Benllech – ClwydAlyn



