Skip to content

Yn ddiweddar aeth staff ClwydAlyn ati a helpu i addurno ac adnewyddu Adeilad y Clwb yng Nghlwb Criced yr Wyddgrug.

Roedd hyn yn rhan o ddyddiau Rhoi ac Ennill ClwydAlyn, cynllun lle’r ydym yn rhoi yn ôl i’n cymuned trwy adael i staff gymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol i greu cymunedau gwell.

Siaradodd y Swyddog Cyswllt Tai, Lisa Jones, â ni am sut yr oedd hi wedi ymwneud â’r Clwb a’r gwahaniaeth anferth y mae’r gwelliannau yn ei wneud i bawb sy’n chwarae yno ac yn defnyddio’r cyfleusterau.

Dywedodd:

“Mae fy nau fab, Ollie a George wedi chwarae i’r Clwb ers sawl blwyddyn erbyn hyn. Cychwynnodd Ollie trwy chwarae i’r tîm dan 9, ac roedd George yn chwarae i’r tîm dan 13 oed, ac mae’r ddau yn chwarae i’r prif dîm erbyn hyn.

“Roeddwn yn mynd draw i gyfarfodydd yn y Clwb ac yn y pen draw mi ddes i’n rhan o’r Pwyllgor, ac mi wnaethon ni ddechrau siarad am sut i gael y cyllid i adnewyddu adeilad y Clwb.

“Fe ddwedais wrth bwyllgor y Clwb am ddyddiau Rhoi ac Ennill ClwydAlyn, lle mae’r cwmni’n rhoi er budd y gymuned, o hynny ymlaen fe wnaethom lwyddo i drefnu i’r deunyddiau gael eu rhoi ac i’r staff weithio ochr yn ochr â’r gweithwyr proffesiynol wrth beintio’r gegin a’r ystafelloedd ymolchi ac ailosod cegin newydd yn gyfan.

“Roeddem yn lwcus bod ClwydAlyn wedi rhoi hyn i gyd, gan gynnwys yr holl unedau, lloriau newydd, a’r lloriau atal llithro ar gyfer tu ôl y bar a’r toiledau. Roeddwn i a’m cydweithwraig, y Swyddog Lles Lisa Best, yn brysur a ni wnaeth roi’r growt rhwng y teils ac addurno hefyd!

“Y canlyniad yw bod gennym yn awr Adeilad Clwb sy’n cael ei ddefnyddio gan y gymuned gyfan am bris rhesymol iawn. Ac oherwydd y gwaith a wnaed, mae’r cyfraddau hyn a’r ffioedd aelodaeth yn y Clwb yr un fath ag yr oedden nhw chwe mlynedd yn ôl.

“Mae gennym fand sy’n ymarfer yma, clwb canu clychau, ac mae Slimming World yn ei ddefnyddio unwaith yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn, a gyda llawer o denantiaid ClwydAlyn yn byw yn yr Wyddgrug a’r ardal gyfagos, mae ein cyfleusterau ar gael i’w llogi i bob math o grwpiau trwy’r flwyddyn diolch i ClwydAlyn am roi amser a deunyddiau er budd pawb yn ein cymunedau lleol.”

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn llogi Adeilad y Clwb, anfonwch e-bost at Lisa ac fe wnaiff hi geisio trefnu pethau i chi.