Skip to content

Mae ClwydAlyn, y Gymdeithas Tai o Ogledd Cymru, wedi cyhoeddi y bydd y gwaith o ddatblygu’r cynllun tai fforddiadwy newydd yn Builder Street, Llandudno, yn ailddechrau.

Daw’r garreg filltir bwysig hon yn dilyn cyfnod o ansicrwydd ar ôl i’r datblygwr blaenorol fynd i’r wal.

Bydd y prosiect yn cynnwys 77 o gartrefi un, dwy, tair a phedair ystafell wely ar rent, a hynny mewn ardal lle mae prinder tai fforddiadwy. Bydd y tai o ansawdd uchel ar gyfer teuluoedd yn ogystal â phobl dros 55 oed.

Bydd y dyluniadau arloesol o’r radd flaenaf gan sicrhau bod y cartrefi nid yn unig yn gysurus ac yn atyniadol, ond hefyd yn addas ar gyfer y dyfodol, ac yn cynnwys nodweddion ynni-effeithlon i hyrwyddo cynaliadwyedd.

Cwmni Lane End Developments oedd yn gyfrifol am y datblygiad yn wreiddiol, ond daeth gwaith ar y prosiect i ben pan aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Ebrill y llynedd. Erbyn hyn mae ClwydAlyn wedi creu partneriaeth gyda chwmni K & C Construction o Lanelwy i gwblhau’r gwaith adeiladu ar y safle.

Bydd datblygiad Builder Street yn dod â budd i’r ardal leol, drwy gynnig swyddi a datblygiadau cymunedol eraill, gan adlewyrchu cenhadaeth ClwydAlyn i gyfoethogi a chefnogi cymunedau ar draws Gogledd Cymru.

“Er gwaethaf yr heriau yn sgil newid y datblygwyr, rydym yn falch iawn ein bod yn gallu parhau â’r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy y mae dirfawr eu hangen yn yr ardal.

“Mae ailddechrau’r gwaith ar y prosiect yn rhan o’n hymrwymiad i adeiladu cartrefi sydd nid yn unig yn ateb y galw am dai fforddiadwy sy’n fwy effeithlon o ran ynni yn yr ardal, ond sydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned ehangach.

“Mae ein tîm wedi gweithio’n eithriadol o galed ar y safle, felly rydym yn falch iawn y bydd ein partneriaeth gyda K & C Construction yn ein galluogi i barhau."
Penny Storr
Pennaeth Datblygiad a Thwf ClwydAlyn

Ychwanegodd Stuart Askey, Rheolwr Datblygu Busnes K & C Construction:

“Rydym yn hynod o falch o greu’r bartneriaeth hon gyda ClwydAlyn i ailddechrau ar y gwaith adeiladu ar y prosiect hollbwysig hwn, a fydd nid yn unig yn cyfrannu at adfywio tai fforddiadwy yn Llandudno, ond a fydd hefyd yn creu cymuned ffyniannus newydd ac yn dod â budd i’r economi leol.”

Bu rhanddeiliaid allweddol o K & C Construction a ClwydAlyn yn ymweld â’r safle i nodi’r ffaith bod y gwaith yn ailddechrau, gan ddangos y cynnydd a wnaed hyd yma a dathlu’r bartneriaeth a fydd yn symud y prosiect yn ei flaen.

Mae’r datblygiad yn rhan o fuddsoddiad o £250m gan ClwydAlyn ar draws ardaloedd yng Ngogledd Cymru y mae asesiad annibynnol wedi dangos bod angen rhagor o dai fforddiadwy arnynt. Bydd y gymdeithas dai yn darparu 1500 o gartrefi newydd ychwanegol ar draws y rhanbarth erbyn 2025.