Skip to content

Ddoe (Dydd Llun, 1 Tachwedd) lansiodd ClwydAlyn, cymdeithas dai sy’n gwasanaethu 6 sir Gogledd Cymru, Ymgynghoriad Cyn Gynllunio er mwyn trafod cynlluniau i adeiladu tai cymdeithasol newydd ym Mhentref Pwyliaid Penrhos ger Pwllheli.

Bwriad yr ymgynghoriad yw casglu barn a thystiolaeth gan y cyhoedd, busnesau lleol, a phawb sydd â diddordeb i helpu ClwydAlyn i siapio dyfodol Pentref Pwyliaid Penrhos.

Dywedodd Andy Fraser, Rheolwr Prosiect y Datblygiad yn ClwydAlyn:

“Rydym yn awyddus i glywed barn y gymuned leol am ein cynlluniau ar gyfer tai cymdeithasol ar y safle.

“Ers cymryd y safle drosodd yn 2020, rydym wedi bod yn gweithio’n glos gyda staff a phreswylwyr Pentref Pwyliaid Penrhos i’n helpu i ddeall anghenion y preswylwyr a’r gymuned ehangach fel ein bod yn gallu siapio gwasanaethau gofal a chefnogi a datblygu cartrefi newydd o ansawdd.

“Ein nod, mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yw creu cartrefi sy’n fforddiadwy ac effeithlon a fydd yn cryfhau a chadw’r gymuned gref sydd eisoes yno.”

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd:

“Dros y blynyddoedd, mae pentref Pwyliaid Penrhos wedi darparu gofal a chefnogaeth i genedlaethau o bobl hŷn. Ers i Gymdeithas Dai’r Pwyliaid gymryd y penderfyniad anodd i gau’r cartref preswyl, mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithio’n agos gyda chymdeithas dai ClwydAlyn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu cynigion a fyddai’n golygu parhad defnydd y safle pwysig yma ar gyfer y dyfodol.

“Rydyn ni’n falch bod Ymgynghoriad Cyn Gynllunio ar gam cyntaf ail-ddatblygiad y safle bellach ar y gweill. Fel un o’r partneriaid allweddol, bydd Cyngor Gwynedd yn mynychu’r digwyddiadau galw heibio a byddem yn annog unrhyw un fyddai’n awyddus dysgu mwy am y cam cyntaf hwn yn y cynigion i adfywio’r safle pwysig hwn yn dod draw a rhannu eu sylwadau ar y cam cychwynnol.”
Cynhorydd Craig ab Iago
Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd

Ar hyn o bryd mae’r safle yn rhoi llety i rai dros 55 mlwydd oed gyda chysylltiadau cryf â’r gymuned o Bwyliaid yn ogystal â phobl o’r ardal leol. Nod ClwydAlyn yw adeiladu ar y gymuned fywiog sydd eisoes yn bodoli ym Mhenrhos, gan gadw’r safle diogel a hapus hwn am flynyddoedd lawer i ddod.

Ychwanegodd Andy Fraser:

“Ein cenhadaeth yw trechu tlodi ac ymdrechu i sicrhau bod gan bawb yng Ngogledd Cymru fynediad at dai o safon ragorol.

“Mae hwn yn gynllun newydd cyffrous i ClwydAlyn, un yr ydym yn gobeithio y bydd yn ymdrin ag angen am dai yn yr ardal leol yn ogystal â rhoi hwb i gyflogaeth yn lleol.”

Bydd yr ymgynghoriad ar agor hyd 29 Tachwedd, gan roi cyfle i bobl fynd i un o’r tri digwyddiad gwybodaeth a drefnwyd neu weld cynlluniau ClwydAlyn ar‐lein.

Cynhelir y digwyddiadau yma ar:

  • 9 Tachwedd, Pentref Pwyliaid Penrhos, 2‐6yh
  • 10 Tachwedd, Neuadd Bentref Llanbedrog, 4‐8yh
  • 11 Tachwedd, Clwb Golff Pwllheli, 4‐8yh

Gall y rhai sy’n methu mynd i’r digwyddiadau gwybodaeth hefyd weld manylion am gynnig ClwydAlyn a rhoi sylwadau ar cy.cadnantplanning.co.uk/penrhos-pwllheli.

Mae’r cynllun yn rhan o raglen ddatblygu ClwydAlyn i ddarparu 1500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 am fuddsoddiad o £250m gan ddod â chyfanswm y tai y maent yn eu rheoli i dros 7,500.