Skip to content

Gosodwyd y gymdeithas dai o Ogledd Cymru, ClwydAlyn yn drydydd ymhlith darparwyr cartrefi cymdeithasol y Deyrnas Unedig sy’n adeiladu’r cartrefi mwyaf effeithlon o ran ynni.

Dengys y safle, a gymerwyd o arolwg Inside Housing ‘Top 50 Biggest Builders’ bod ClwydAlyn wedi perfformio’n well na landlordiaid llawer mwy gyda 102 trawiadol allan o’r 149 o gartrefi a gwblhawyd yn 2022-23 yn cael cyfradd band A o ran y dystysgrif EPC.

Dengys y llwyddiant hwn ymrwymiad y gymdeithas dai i ddarparu cartrefi lle mae cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni yn flaenllaw, gan wella fforddiadwyedd a pha mor gyfforddus yw tenantiaid.

Gall cartrefi gyda chyfradd EPC A olygu gostyngiad o hyd at hanner cost biliau gwresogi pan gânt eu cymharu â chartrefi gyda chyfradd B. Mae mwyafrif cartrefi newydd ClwydAlyn sy’n cyrraedd y gyfradd hon yn gartrefi gwyrdd carbon isel, sydd, er yn costio mwy yn sylweddol i’w hadeiladu, yn mynd tu hwnt i’r gyfradd effeithlonrwydd uchaf.

Wrth i’r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar aelwydydd, mae darparu cartrefi sy’n cynnig arbediadau ynni sylweddol yn arwyddocaol iawn i breswylwyr.

“Rydym yn hynod o falch o gael ein rhoi yn drydydd yn y dosbarthiad hwn, sy’n cydnabod ein hymdrechion i adeiladu’n fwy cynaliadwy ac effeithlon. Er bod adeiladu cartrefi yn ôl y safon effeithlonrwydd hon yn gofyn am fuddsoddiad ychwanegol, mae ClwydAlyn yn ei weld yn fuddsoddiad yn y dyfodol, sydd o fudd i nid yn unig y preswylwyr yn yr argyfwng costau byw ond hefyd yr amgylchedd o ystyried yr argyfwng hinsawdd.

“Rydym yn gwybod bod mwy a mwy o breswylwyr yn cael eu heffeithio’n ddifrifol gan filiau gwres cynyddol, sy’n cynyddu tlodi tanwydd, felly mae’n bwysig i ni weithredu i sicrhau bod ein holl gartrefi yn cyrraedd y gyfradd effeithlonrwydd uchaf posibl i atal colli gwres a lleihau costau tanwydd.

“Credwn y dylai pawb gael mynediad at gartref da ac un y gallan nhw fforddio ei wresogi, ac mae gwneud cartrefi mor effeithlon â phosibl wrth gadw gwres yn gam anferth tuag at gyflawni hyn.

“Dylai cartrefi cynaliadwy, effeithlon o ran ynni fod yn ganolog i’r sector tai, felly rydym yn falch iawn o gael ein gweld fel enghraifft o gymdeithas dai sy’n cymryd camau cadarnhaol tuag at adeiladu ar gyfer y dyfodol”.
Clare Budden
Prif Weithredwr ClwydAlyn

Mae ymrwymiad ClwydAlyn i greu cartrefi effeithlon o ran ynni yn ganolog i’w genhadaeth o frwydro yn erbyn tlodi. Trwy sicrhau’r gwerth cymdeithasol mwyaf sy’n cael ei greu gan ei gartrefi, mae’n ceisio gwella bywydau preswylwyr a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Cyn i ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru ddod i rym fydd yn sicrhau bod yr holl dai cymdeithasol yn cyrraedd y gyfradd effeithlonrwydd uchaf erbyn 2030, mae ClwydAlyn ar hyn o bryd yn adeiladu 558 arall o gartrefi effeithlon iawn ac yn cymryd camau rhagweithiol i arwain y ffordd wrth wella cynaliadwyedd yn y sector.

Yn ychwanegol at sicrhau cyfraddau effeithlonrwydd uchel i’r holl adeiladau newydd, buddsoddodd ClwydAlyn £5.4 miliwn yn 2022-23 mewn camau gwella ynni i’w cartrefi presennol, gyda’r preswylwyr hynny yn gallu arbed hyd at £62.66 y flwyddyn mewn costau ynni, a’r adeiladau’n cael eu mesur ar leihau’r allbwn carbon.

Mae’r llwyddiannau diweddar wrth roi hwb i effeithlonrwydd ei gartrefi yn cynnwys darparu diweddariadau i 973 o gartrefi a darparu offer addysg ynni i roi mwy o wybodaeth i breswylwyr am gamau effeithlonrwydd ynni.