Skip to content

Croesawodd ClwydAlyn ddisgyblion o Ysgol Gymuned Pentraeth i archwilio un o’i brosiectau datblygu tai diweddaraf. Nod yr ymweliad oedd dysgu’r disgyblion am gartrefi gwyrdd a chynaliadwy, yn union fel y maent yn ei ddysgu yn yr ysgol.

Yng nghwmni eu Pennaeth, roedd yr ymweliad yn rhoi cyfle i’r disgyblion weld technoleg adeiladu gwyrdd a dyluniadau blaengar yn cael eu gweithredu’n ymarferol.

Dywedodd Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn:

“Rydym yn falch o gael dangos i ddisgyblion Ysgol Gymuned Pentraeth sut yr ydym yn defnyddio technolegau a datrysiadau gwyrdd newydd blaengar. Rydym yn gobeithio y bydd y profiad hwn yn cynyddu eu diddordeb a’u dealltwriaeth o sut y maent yn ymdrin â heriau amgylcheddol. Hefyd, mae dysgu am gartrefi cynaliadwy yn eu helpu i ddeall yr effaith ar iechyd a llesiant.”

Dywedodd Lynne Jones, Pennaeth yr ysgol: “Fe wnaeth y disgyblion fwynhau eu hymweliad â Llys Llwydiarth yn fawr a chawsant groeso cynnes iawn. Gwnaeth y tai ecogyfeillgar argraff arbennig ar y plant, o’r pympiau gwres a’r paneli solar integredig i’r waliau pren. Roedd yr ymweliad yn cyd-daro â phrosiect STEM Ynni sy’n cael ei redeg gan M-SParc sy’n dysgu’r disgyblion am ynni carbon isel a chynyddu ymwybyddiaeth y plant o yrfaoedd a busnesau ar eu trothwy. Mae ClwydAlyn yn enghraifft berffaith o fusnes a chyflogwr llwyddiannus yng Ngogledd Cymru.”

 

Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma, sydd bron â’u gorffen, yn cynnwys amrywiaeth o fflatiau 1 ystafell wely, a chartrefi 2, 3 a 4 ystafell wely. Yn cynnwys 23 o gartrefi fforddiadwy, effeithlon o ran ynni, mae’r datblygiad hwn ar dir gerllaw Stad Ddiwydiannol Pentraeth, ac mae trwy bartneriaeth gyda Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.

Bydd 13 o’r tai’n cael eu rheoli gan ClwydAlyn a 10 o’r tai’n cael eu rheoli gan Gyngor Sir Ynys Môn.

Disgwylir i’r preswylwyr symud iddynt yn 2024.

DIWEDD.