Skip to content

Yn ddiweddar bu’n Cyfarwyddwr Gweithredol, Craig Sparrow, yn rhan o gynhadledd yng Nghaerdydd oedd yn canolbwyntio ar ymdrin â llygredd a ffosffadau mewn afonydd, sy’n faterion allweddol. Roedd y gynhadledd gan Lywodraeth Cymru yn llwyfan i drafod taclo materion amgylcheddol hanfodol.

Denodd y digwyddiad randdeiliaid allweddol a’r Gweinidogion Mark Drakeford, Prif Weinidog, Julie James y Gweinidog Hinsawdd a Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig yn eu plith. Roedd eu presenoldeb yn pwysleisio pwysigrwydd gweithredu arferion a pholisïau cynaliadwy.

Yn ôl Craig, dewiswyd ClwydAlyn i gymryd rhan yn y gynhadledd oherwydd ein hanes rhagorol yn y sector tai:

“Rydym yn cael ein gweld yn un o’r prif ddarparwyr tai fforddiadwy. Mae gennym berthynas ragorol â Llywodraeth Cymru ac rydym wedi darparu nifer o astudiaethau achos ar ein safleoedd lle mae ffosffadau wedi effeithio arnynt, i geisio helpu swyddogion Llywodraeth Cymru i yrru datrysiadau gyda phartneriaid i ddechrau adeiladu eto a tharo targedau’r gweinidogion. Ar un adeg roedd gennym bron i 300 o dai fforddiadwy ar stop oherwydd problemau gyda ffosffadau.”
Craig Sparrow
Cyfarwyddwr Gweithredol

Cymerodd Craig ran mewn sgyrsiau, gan gyfnewid syniadau a strategaethau gydag arbenigwyr a llunwyr polisïau o Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, y Llywodraeth a’r sector amaeth. Roedd y gynhadledd yn amlygu’r angen am gydweithio i ddatrys y broblem bwysig hon i ddiogelu ein hafonydd a’n dyfrffyrdd.

Rhoddodd Dirprwy Gyfarwyddwr Tai Llywodraeth Cymru gyflwyniad ar gynnydd wrth gyflawni prosiectau tai gyda Craig yn amlygu profiad a sefyllfa ClwydAlyn. Mae’r pwyntiau allweddol a wnaed yn cynnwys: gwaith y cwmnïau dŵr, a daeth y gymuned amaethyddol â’u safbwynt unigryw trwy roi trosolwg o ddulliau cynaliadwy sy’n cael eu mabwysiadu i ddiogelu dyfrffyrdd.

Mae cyfraniad ClwydAlyn at y gynhadledd yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol i ymdrin â’r her:

“Fel cadeirydd y grŵp cyflawni cartrefi’r dyfodol, fe wnaethom ddwyn y mater ger bron ein sector a threfnu i bobl allweddol roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gymdeithasau tai eraill ar draws Cymru. Gan sicrhau bod yr oblygiadau yn cael eu codi ar y lefelau uchaf a helpu i ddatgloi safleoedd datblygu.”
Craig Sparrow
Cyfarwyddwr Gweithredol