Skip to content

Amodau a Meini Prawf

Dylai holl ymgeiswyr y Gronfa Preswylwyr fodloni’r meini prawf canlynol: –

  • Bod yn breswyliwr ClwydAlyn
  • Bod mewn angen ariannol oherwydd amgylchiadau annisgwyl.
  • Yn methu talu rhent a chostau byw hanfodol eraill fel biliau’r aelwyd.
  • Beidio â bod yn destun unrhyw ymchwiliad yng nghyswllt torri tenantiaeth na bod mewn dyled oherwydd gweithgaredd twyllodrus yr amheuir neu wirioneddol

Yn gyffredinol rhoddir blaenoriaeth i breswylwyr yn yr amgylchiadau canlynol:-

  • Y rhai â dyletswyddau gofal, gan gynnwys gofal plant
  • Y rhai ag anghenion arbennig, anableddau dysgu neu anableddau corfforol/iechyd meddwl
  • Y rhai a ystyrir mewn angen oherwydd bregrusrwydd canolig neu uchel
  • Y rhai sy’n mynd i addysg
  • Rhai sy’n tanlenwi cartref a fydd wedi eu heithrio mewn llai na 12 mis
  • Rhai sy’n tanlenwi i aros mynd i gartref llai neu drosglwyddo/cyfnewid
  • Y rhai sy’n profi caledi oherwydd gweithredu Credyd Cynhwysol
  • Y rhai sy’n profi caledi oherwydd gweithredu Taliadau Annibyniaeth Bersonol

Dim ond unwaith bob 12 mis y bydd ClwydAlyn yn cefnogi un taliad o’r Gronfa Breswylwyr i denant a’i deulu.

Bydd raid i ymgeiswyr y mae’r Dreth Ystafelloedd Gwely yn effeithio arnynt: –

  • Fod â chais am Daliad Tai Dewisol wedi ei wrthod ar eu cyfer
  • Fod yn ymwneud yn weithredol â chael llety llai a/neu atebion eraill i gynyddu eu hincwm, e.e. cymryd lojar neu chwilio am swydd os yn berthnasol

Yn ychwanegol, gellir gofyn i ymgeiswyr: –

  • Gael Gwiriad Iechyd Ariannol gydag un o Swyddogion gan gynnwys asesiad incwm a gwariant
  • Ddangos sut y mae ei sefyllfa ariannol wedi gwaethygu
  • Ddangos sut y mae wedi ceisio cael cymorth o ffynonellau eraill sydd ar gael h.y. Taliadau Tai Dewisol, benthyciad cyllidebu di-log gan y DWP neu i hawlwyr Credyd Cynhwysol – taliad cyllidebu ymlaen llaw.
  • Beidio â bod wedi gallu cael mynediad at wasanaethau eraill a allai leddfu eu sefyllfa ariannol mewn unrhyw ffordd arall
  • Roi tystiolaeth i gefnogi os bydd angen
  • Fod â chais Tâl Tai Dewisol wedi ei wrthod os yn berthnasol
Cronfa Preswylwyr
Dilynwch y ddolen isod i ymgeisio.
Ymgeisiwch Rŵan