Ym mis Ebrill, croesawyd y preswylwyr newydd a oedd yn symud i Neuadd Maldwyn, cynllun byw’n annibynnol newydd i bobl hŷn yn y Trallwng, Powys. Mae’r cynllun unigryw wedi ennyn llawer o ddiddordeb, felly mae ClwydAlyn, perchennog Neuadd Maldwyn, wedi trefnu diwrnod agored i weithwyr proffesiynol lleol a darpar breswylwyr er mwyn rhoi cyfle iddynt weld y cyfleusterau.
Saif Neuadd Maldwyn, sy’n cynnwys 66 o fflatiau un a dwy ystafell wely, mewn hen adeilad neo-Sioraidd Gradd II sydd wedi’i drosi. Roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio gan Gyngor Sir Powys tan 2021, a chyn hynny dyma bencadlys Cyngor Dosbarth Sir Drefaldwyn a Chyngor Sir Drefaldwyn.
Mae’r fflatiau pwrpasol o ansawdd uchel yn cynnig amgylchedd byw delfrydol i breswylwyr hŷn y gall fod angen gofal a chymorth hyblyg arnynt i gadw eu hannibyniaeth.
Mae’r gymuned leol wedi cymryd llawer o ddiddordeb yn natblygiad y cynllun hirddisgwyliedig hwn. Nawr, mae cyfle i gael gipolwg y tu mewn i’r adeilad ysblennydd a gweld sut le yw Neuadd Maldwyn i fyw ynddo.
Ar 3 Gorffennaf, gwahoddir gweithwyr proffesiynol lleol a darpar breswylwyr i alw heibio am luniaeth a thaith o gwmpas yr adeilad.
Bydd Neuadd Maldwyn ar agor rhwng 10am a 12pm i weithwyr proffesiynol lleol.
Bydd Neuadd Maldwyn ar agor rhwng 1pm a 3pm i ddarpar breswylwyr, yn ogystal â’u teuluoedd neu ffrindiau.
Gall ymwelwyr ymweld ag ardaloedd cyffredin Neuadd Maldwyn, mwynhau paned a chacen yn y neuadd fwyta hardd, a gweld sut le sydd yn yr adeilad neo-Sioraidd rhestredig Gradd II.
Does dim angen cadw lle ymlaen llaw, ac mae tîm Neuadd Maldwyn yn edrych ymlaen i groesawu’r ymwelwyr.


