Skip to content

Mae ClwydAlyn, y gymdeithas dai o Lanelwy, wedi codi dros £8,000 i Hosbis St. Kentigern yn ystod y flwyddyn drwy gynnal pob math o fentrau codi arian, a drefnwyd gan ei Phwyllgor Chwaraeon a Chymdeithasol.

Yn ystod y flwyddyn, mae aelodau staff ClwydAlyn wedi trefnu pob math o ddigwyddiadau codi arian i gefnogi Hosbis St. Kentigern. Bydd yr holl arian yn cyfrannu at waith hanfodol yr Hosbis, sy’n cynnwys darparu gofal lliniarol arbenigol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i bobl leol sydd ag afiechydion sy’n cyfyngu ar fywyd.

Ar ôl cynnal pleidlais ymhlith y staff, dewisodd Pwyllgor Chwaraeon a Chymdeithasol ClwydAlyn (y Pwyllgor SAS) Hosbis St. Kentigern yn ‘Elusen y Flwyddyn’ ar gyfer 2025. Mae’r gweithgareddau codi arian dros y 12 mis diwethaf wedi cynnwys noson gwis, raffl elusennol, gwerthiant cist car, a thwrnament pêl-droed 5-bob-ochr; gan ddangos pa mor benderfynol oedd y staff o godi cymaint o arian â phosibl.

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych wrth i ni godi arian i achos lleol mor deilwng. Rydyn ni wedi mwynhau dod i adnabod Tîm St. Kentigern ac rwy’n gobeithio y bydd cyfle i ni weithio gyda nhw eto yn y dyfodol.
“Mae cysylltiad agos iawn rhwng gwerthoedd craidd ClwydAlyn, sef ‘Ymddiriedaeth, Gobaith a Charedigrwydd’ a’r gwaith gwerthfawr sy’n cael ei wneud yn yr hosbis. Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi St. Kentigern ac rwy’n gobeithio y bydd y cyfraniad hwn yn cyfrannu at y gwaith anhygoel mae’r hosbis yn ei wneud yn ein cymuned.”
Shaun Hurley
Aelod o Bwyllgor SAS ClwydAlyn
“Mae pawb yma yn yr hosbis yn hynod o ddiolchgar i ClwydAlyn am godi’r swm anhygoel hwn yn ystod y 12 mis diwethaf. Roeddwn wrth fy modd yn cael cyfle i ddod i rai o’r digwyddiadau gwych ac rydyn ni’n diolch o galon i bawb am eu cefnogaeth. Dim ond 26% o’n hincwm sy’n dod o arian statudol, mae’n rhaid i ni godi gweddill yr arian drwy ddibynnu ar garedigrwydd ein cymuned, busnesau lleol a phartneriaid corfforaethol. Dyma pam rydyn ni mor ddiolchgar i ClwydAlyn, am ein dewis ni fel eu helusen ar gyfer y flwyddyn 25/26 ac am weithio mor galed i godi cymaint o arian, a fydd yn ein helpu i gynnig gofal tosturiol, arbenigol 24 awr y dydd, a 365 diwrnod y flwyddyn.”
Alwyn Mason
Swyddog Codi Arian Corfforaethol yr hosbis

I gael rhagor o wybodaeth am Hosbis St Kentigern, ewch i: Amdanom ni – Hosbis St Kentigern

I gael rhagor o wybodaeth am ClwydAlyn, ewch i: Tai ClwydAlyn Gogledd Cymru