Skip to content

Mae staff ymroddedig o Gymdeithas Tai ClwydAlyn yn paratoi i deithio 20 milltir fel rhan o her genedlaethol yn codi arian “amhrisiadwy” i elusennau digartrefedd.

Bydd y gymdeithas dai o Ogledd Cymru yn wynebu’r her gerdded ar 29 Mehefin fel rhan o’r her Heicio dros Dai genedlaethol.

Bydd yr her yn gweld 11 o gymdeithasau tai Cymru yn cymryd rhan mewn teithiau cerdded noddedig, yn rhedeg neu’n beicio mewn ymgais i gefnogi nifer o elusennau digartrefedd a’i atal.

Bydd ClwydAlyn yn cerdded 20 milltir o Dalacre i Fae Colwyn i godi arian hanfodol ar gyfer yr elusen ddigartrefedd genedlaethol Shelter Cymru, sy’n anelu i amddiffyn yr hawl i gartref diogel yng Nghymru

Ochr yn ochr â ClwydAlyn, y cymdeithasau tai eraill sy’n cymryd rhan yn Heicio dros Dai yw Stori, Cymdeithas Dai Cymunedol Caerdydd, Bron Afon, Melin, Cymdeithas Dai Sir Fynwy, Tai Calon, Cartrefi Conwy, Caredig, a Chymoedd i’r Arfordir.

Cefnogwyd pob cymdeithas dai gan gorff masnach y sector Tai Cymunedol Cymru, sydd wedi trefnu’r teithiau a dod ag arbenigwyr i mewn o’r cwmni adeiladu tîm Call of the Wild a’r cwmni cyfreithiol o Gymru Hugh James i gynghori’r rhai oedd yn cymryd rhan yn eu digwyddiadau. Bydd staff y sefydliad nid er elw, sy’n goruchwylio 34 cymdeithas dai Cymru, hefyd yn ymuno â theithiau gwahanol ar draws y wlad.

“Rydym yn falch iawn o’n tîm am gymryd rhan yn yr her gerdded hon a fydd yn helpu i godi arian y mae mawr ei angen i Shelter Cymru.

“Mae ein tîm wedi bod yn gweithio’n galed i hyfforddi ar gyfer y daith gerdded 20 milltir a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi hyd yn hyn

“Mae mwy o alw am wasanaethau tai nag erioed yn awr, felly os gwelwch yn dda rhowch yn hael os gallwch chi a helpu i gefnogi pobl sy’n wynebu digartrefedd, ewch i https://www.justgiving.com/page/clwyd-alyn-1686917441150
Dywedodd Amy Teodorescu
Arweinydd y daith yn ClwydAlyn

Ochr yn ochr â ClwydAlyn, y cymdeithasau tai eraill sy’n cymryd rhan yn Heicio dros Dai yw Stori, Cymdeithas Dai Cymunedol Caerdydd, Bron Afon, Melin, Cymdeithas Dai Sir Fynwy, Tai Calon, Cartrefi Conwy, Caredig, a Chymoedd i’r Arfordir.

Cefnogwyd pob cymdeithas dai gan gorff masnach y sector Tai Cymunedol Cymru, sydd wedi trefnu’r teithiau a dod ag arbenigwyr i mewn o’r cwmni adeiladu tîm Call of the Wild a’r cwmni cyfreithiol o Gymru Hugh James i gynghori’r rhai oedd yn cymryd rhan yn eu digwyddiadau. Bydd staff y sefydliad nid er elw, sy’n goruchwylio 34 cymdeithas dai Cymru, hefyd yn ymuno â theithiau gwahanol ar draws y wlad.

“Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi a threfnu’r digwyddiad taith noddedig gwych yma trwy Gymru.

“Hoffem ddiolch i’r holl gymdeithasau tai a’u staff fydd yn cymryd rhan yn y teithiau yma, a dymunwn y gorau iddynt wrth iddyn nhw gerdded, rhedeg neu feicio’r pellter.

“Mae digartrefedd a gwasanaethau cymorth tai yn wynebu toriad gwirioneddol yn y cyllid cenedlaethol am y flwyddyn sydd i ddod, yr ydym yn eithriadol o bryderus amdano. Tra’r ydym yn parhau i bwyso am ragor o gymorth i’r gwasanaethau hanfodol yma, rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiadau yma yn codi arian gwerthfawr y mae angen mawr amdano. 

“Os ydych yn gallu noddi un o’r timau sy’n cymryd rhan, gwnewch hynny.”
Dywedodd Stuart Ropke
Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru

Gall y rhai sy’n dymuno noddi tîm cymdeithas dai ymweld â’u tudalennau cyfryngau cymdeithasol unigol a’u gwefannau, lle byddant yn dod o hyd i ddolenni i’w tudalennau codi arian.

Mae’r holl gymdeithasau wedi cael eu cefnogi gan yr arbenigwyr llunio timau ac arweinyddiaeth Call of the Wild, ac wedi cael cymorth cyfreithiol gan Hugh James.

Cartrefi Cymunedol Cymru yw llais cymdeithasau tai yng Nghymru, gyda’i aelodau yn darparu bron i 165,000 o gartrefi i 10% o boblogaeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth am Cartrefi Cymunedol Cymru ewch i chcymru.org.uk.

https://www.justgiving.com/page/clwyd-alyn-1686917441150