Skip to content

Dywedodd Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn:

 

“Ym Medi 2020 trosglwyddodd Cymdeithas Dai’r Pwyliaid Bentref Pwyliaid Penrhos i Tai ClwydAlyn yn dilyn cyfnod hir o ansicrwydd ariannol.

“Oherwydd oedran ac adeiladwaith y cartrefi presennol, mae arnyn nhw angen buddsoddiad sylweddol iddynt gyrraedd y safon, nid yw’r cartrefi presennol wedi eu dylunio i fodloni anghenion pobl wrth iddyn nhw newid ac nid ydyn nhw’n effeithlon o ran ynni. Dros gyfnod o amser, rydym yn bwriadu cyfnewid y cartrefi presennol ac adeiladu amrywiaeth o gartrefi newydd a fydd yn cyrraedd lefelau uchel o gynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni, yn ogystal ag adeiladu cartrefi am oes sy’n cefnogi anghenion pobl ar gyfnodau gwahanol yn eu bywydau.

“Bydd cam cyntaf y cais cynllunio yn mynd ger bron y Pwyllgor Cynllunio ddydd Llun ac yn blaenoriaethu adeiladu 44 cartref i’r preswylwyr presennol sy’n byw ym Mhentref Pwyliaid Penrhos, a phobl ag anghenion gofal a chefnogaeth isel i ganolig o’r gymuned leol. Yn ychwanegol, mae dau gartref hefyd ar gyfer llety â chymorth i oedolion ag anableddau dysgu. Rydym wedi cynllunio’r datblygiad mewn tri cham i leihau’r amharu ar y preswylwyr sy’n byw ar y safle. Gall y preswylwyr aros yn eu cartrefi presennol nes bydd y cartrefi newydd yn barod ac yna penderfynu beth fydden nhw’n hoffi ei wneud. Ni fydd unrhyw un yn cael ei orfodi i symud.

 

“Rydym wedi ymrwymo o’r dechrau y bydd datblygu cartref gofal newydd yn rhan allweddol o’r cynlluniau. Rydym yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i edrych ar ddewisiadau gwahanol fydd yn cynnal model gofal newydd flaengar ar y safle a bydd hyn yn rhan o gais cynllunio ar wahân.

“Rydym yn ymroddedig i gadw etifeddiaeth Bwylaidd a Chymreig y safle, bydd yr Eglwys, Croes Rhyddid a’r ardd furiog yn cael eu diogelu. Rydym wedi gweithio gyda’r Sefydliad Pwylaidd ac Amgueddfa Sikorski i ddiogelu’r dogfennau hanesyddol sydd ar y safle a bydd llinell amser hanesyddol yn cael ei hymgorffori yn ardal gymunedol y datblygiad newydd.

“Am flynyddoedd lawer mae’r safle wedi bod yn hafan, gan roi llety hanfodol a chefnogaeth i gyn aelodau o’r lluoedd arfog o wlad Pwyl a arhosodd ym Mhrydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gan gynnig cartrefi i gyplau, teuluoedd a phobl hŷn. Datblygiad tymor hir yw hwn i ClwydAlyn, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid, Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ogystal â phreswylwyr a’r gymuned leol i siapio cynlluniau at y dyfodol.

“Mae’n ddealladwy bod rhai preswylwyr yn bryderus am yr ailddatblygu, ond rydym yn angerddol am gadw’r ymdeimlad cryf o gymuned sy’n bodoli ar hyn o bryd ym Mhenrhos wrth i’r safle symud i bennod nesaf ei hanes.”