Skip to content
13 Cartrefi
3-23 Stryd Edward Henry, Y Rhyl, Sir Ddinbych. LL18 1TE
Ar y gweill

Dyddiad cwblhau arfaethedig: Gwanwyn 2024

Mae’r prosiect £3.89m, sy’n bartneriaeth rhwng ClwydAlyn, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru wedi gweld 33 o’r fflatiau oedd yn bodoli’n

cael eu dymchwel ac 13 o gartrefi fforddiadwy i deuluoedd tair ystafell wely yn cael eu hadeiladu yn eu lle gan NWPS Construction.

Mae’r cartrefi newydd yn rhan o’r Cynllun Trawsnewid Trefi ar gyfer ailddatblygu pen gorllewinol y Rhyl. Bydd pump o’r cartrefi newydd yn yr ardal gadwraeth a bydd eu hwyneb yn cael ei ail-adeiladu i edrych yr un fath â’r eiddo sy’n bodoli er mwyn cadw treftadaeth gyfoethog yr ardal.

Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy. Mae’r cartrefi newydd yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

• Pympiau gwres ffynhonnell aer
• Paneli trydan solar
• Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
• Cyfleusterau gwefru ceir trydan
• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
• Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

Mae 13 o gartrefi ar y safle

  • 13 x 3 Bedroom 5 Person Terraced House

Manteision y cartrefi


Effeithlon o ran ynni
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio’r technolegau a deunyddiau diweddaraf, i sicrhau bod eich cartref yn gost effeithiol i’w redeg.
Cefnogaeth gyfeillgar
Cefnogaeth gyfeillgar gan eich Swyddog Tai penodol.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Mae FyClwydAlyn yn wasanaeth ar-lein am ddim, diogel i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.

Y newyddion diweddaraf am y datblygiad:

Hydref 2022
Darllenwch gylchlythyr
Gaeaf 2023
Darllenwch gylchlythyr

Y newyddion diweddaraf a datblygiadau ar gyfer Stryd Edward Henry

Edward Henry Street, Rhyl digging started picture
Prosiect adnewyddu mawr yn dechrau gyda seremoni torri tir
Nododd y seremoni swyddogol ddechrau’r gwaith ar brosiect £3.89m, a fydd yn gweld pen gorllewinol y Rhyl yn cael ei ddatblygu.
Darllenwch fwy
Edward Henry Street, Rhyl
Cartrefi newydd i deuluoedd i gael eu hadeiladu yn y Rhyl
Cychwynnodd y gwaith cyn adeiladu yn ddiweddar ar Stryd Edward Henry yn y Rhyl, fel rhan o raglen adfywio uchelgeisiol.
Darllenwch fwy
Edward Henry Street, Rhyl

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw yn Stryd Edward Henry, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Sir Ddinbych. Dilynwch y ddolen isod i ymgeisio.
Ymgeisiwch Rŵan