Skip to content
16 Cartrefi
Cae Swch, Llan Ffestiniog, Gwynedd LL41 4PQ
Ar y gweill

Cwblhau: Gwanwyn 2025

Bydd y datblygiad £3.5 miliwn hwn yn darparu 10 o gartrefi fforddiadwy, effeithlon o ran ynni yn ardal wledig Cae Swch, Llan Ffestiniog ym Mharc Cenedlaethol Eryri.  Adeiladir y cartrefi yma gan WTS (Wales Timber Solutions) ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru (wedi ei ariannu gan y grant tai cymdeithasol).

Mae’r gymysgedd o gartrefi yn cynnwys cartrefi 2, 3 a 4 ystafell wely. Adeiladir yr holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.

Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

  • Pympiau gwres ffynhonnell aer
  • Paneli trydan solar
  • Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
  • ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
  • Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

Mae 16 o gartrefi ar y safle

  • 4 x Cartref 2 Ystafell Wely
  • 10 x Cartref 3 Ystafell Wely
  • 2 x Gartref 4 Ystafell Wely

Manteision byw yn ein cartrefi


Effeithlon o ran ynni
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio’r technolegau a deunyddiau diweddaraf, i sicrhau bod eich cartref yn gost effeithiol i’w redeg.
Cefnogaeth gyfeillgar
Cefnogaeth gyfeillgar gan eich Swyddog Tai penodol, sy’n ddwyieithog.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Mae FyClwydAlyn yn wasanaeth ar-lein am ddim, diogel i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.

Y newyddion diweddaraf a datblygiadau ar gyfer Cae Swch, Llan Ffestiniog

Cae Swch Site Plan
Tai fforddiadwy newydd i gael eu hadeiladu ym Mharc Cenedlaethol Eryri
Cychwynnodd y gwaith o adeiladu 16 o gartrefi fforddiadwy newydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, yn ardal wledig Cae Swch, Llan Ffestiniog yng Ngwynedd.
Darllenwch fwy

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw yma, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Gwynedd. Dilynwch y ddolen isod i ddechrau’r broses.
Ymgeisiwch Rŵan