Skip to content
41 Cartrefi
Tir i’r gogledd o’r A487 / Canol Cae, Penrhyndeudraeth, LL48 6AU
Ar y gweill

Cwblhau: Gaeaf 2025

Bydd y datblygiad £10 miliwn hwn yn darparu 41 o gartrefi fforddiadwy, effeithlon o ran ynni yn nhref Penrhyndeudraeth, ym Mharc Cenedlaethol Eryri.  Adeiladir y cartrefi yma gan Williams Homes (Bala) ar ran ClwydAlyn a Grŵp Cynefin ac mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.

Mae’r gymysgedd o gartrefi yn cynnwys cartrefi 2, 3 a 4 ystafell wely, byngalos 1 ystafell wely, a fflatiau 1 ystafell wely. Adeiladir yr holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy. Byddant yn cael eu dyrannu trwy’r Gofrestr Tai a Tai Teg.

Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

  • Pympiau gwres ffynhonnell aer
  • Paneli trydan solar
  • Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
  • Cyfleusterau gwefru ceir trydan
  • ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
  • Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

Mae 41 o gartrefi ar y safle

  • 8 x Fflat 1 Ystafell Wely
  • 1 x Byngalo 2 Ystafell Wely
  • 20 x Cartref 2 Ystafell Wely
  • 9 x Cartref 3 Ystafell Wely
  • 1 x Cartref 4 Ystafell Wely
  • 1 x Cartref 6 Ystafell Wely
  • 1 x byngalo byw â chymorth

Manteision byw yn ein cartrefi


Effeithlon o ran ynni
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio’r technolegau a deunyddiau diweddaraf, i sicrhau bod eich cartref yn gost effeithiol i’w redeg.
Cefnogaeth Gyfeillgar
Cefnogaeth gyfeillgar gan eich Swyddog Tai penodol, sy’n ddwyieithog.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Mae FyClwydAlyn yn wasanaeth ar-lein am ddim, diogel i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.

Y newyddion diweddaraf a datblygiadau ar gyfer Canol Cae, Penrhyndeudraeth

Gosod sylfeini ar gyfer cartrefi lleol yng Ngwynedd
Mae’r gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad gwerth £10 miliwn a fydd yn darparu 41 o gartrefi teuluol effeithlon a fforddiadwy i bobl leol ym Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd.
Darllenwch fwy

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw yma, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Gwynedd. Dilynwch y ddolen isod i ddechrau’r broses.
Ymgeisiwch Rŵan