Cwblhau: Gwanwyn 2026
Bydd y datblygiad £16 miliwn hwn, a gefnogir gan grant Llywodraeth Cymru o £10 miliwn, yn darparu 56 o gartrefi fforddiadwy, newydd, effeithlon o ran ynni, yn Llanelwy, Sir Ddinbych. Mae’r cartrefi yn cael eu hadeiladu gan K&C Construction ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.
Mae’r cymysgedd o gartrefi yn cynnwys cartrefi 1, 2 a 3 ystafell wely. Bydd y cartrefi yn cael eu hadeiladu fel cartrefi am oes a byddant wedi’u dylunio fel bod modd eu haddasu’n hawdd os bydd anghenion y preswylwyr yn newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol am gyfnod hwy.
Bydd y cartrefi yn cael eu dyrannu drwy Tai Teg a byddant ar gael i weithwyr allweddol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn amodol ar feini prawf cymhwysedd ychwanegol.
Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn rhagori ar y safonau rheoleiddio presennol: Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a Safonau Mannau a Chartrefi Prydferth Llywodraeth Cymru.
Nod ClwydAlyn yw mynd i’r afael â thlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith gall cartrefi sy’n llai effeithlon o ran ynni ei chael ar iechyd a llesiant pobl. Mae’r broses adeiladu yn defnyddio technolegau gwyrddach a dyluniadau arloesol gan sicrhau bod y cartrefi hyn yn eithriadol o effeithlon o ran ynni ac yn elwa ar y nodweddion canlynol:
- Pympiau gwres ffynhonnell aer
- Paneli trydan solar
- Tai wedi’u lleoli i wneud y mwyaf o ynni’r haul a golau dydd
- ‘Dulliau Adeiladu Modern’, sy’n defnyddio cynifer o ddefnyddiau naturiol a chynaliadwy â phosibl
- Defnyddiau a gafwyd gan wneuthurwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl-troed carbon yn isel.
Gall y cartrefi hyn wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd, ac yn arbed ynni gwerthfawr ac arian hefyd o bosibl yn y tymor hir.
Mae 56 o gartrefi ar y safle
- 31 x Tŷ 1 ystafell wely
- 20 Tŷ 2 ystafell wely
- 5 Tŷ 3 ystafell wely
H M Livingstone, Llanelwy