Skip to content
23 Cartrefi
Tir ger Stad Ddiwydiannol Pentraeth, Ynys Môn. LL75 8LJ
Cwblhawyd

Dyddiad cwblhau arfaethedig: Gaeaf 2024

Datblygiad 23 o gartrefi newydd fforddiadwy effeithlon o ran ynni (bydd 13 o’r tai yn cael eu rheoli gan ClwydAlyn a 10 o’r tai yn cael eu rheoli gan Gyngor Sir Ynys Môn), yn cael eu hadeiladu gan Williams Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.

Mae’r gymysgedd o gartrefi yn cynnwys fflatiau 1 ystafell wely a chartrefi 2, 3 a 4 ystafell wely. Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.

Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

• Pympiau gwres ffynhonnell aer
• Paneli trydan solar
• Batris storio trydan solar
• Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
• Cyfleusterau gwefru ceir trydan
• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
• Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

Mae 23 o gartrefi ar y safle

  • 4 x fflat 1 ystafell wely
  • 4 x Cartref 2 Ystafell Wely
  • 4 x Cartref 3 Ystafell Wely
  • 1 x Cartref 4 Ystafell Wel

Manteision y cartrefi


Effeithlon o ran ynni
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio’r technolegau a deunyddiau diweddaraf, i sicrhau bod eich cartref yn gost effeithiol i’w redeg.
Cefnogaeth gyfeillgar
Cefnogaeth gyfeillgar gan eich Swyddog Tai penodol.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Mae FyClwydAlyn yn wasanaeth ar-lein am ddim, diogel i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.

Y newyddion diweddaraf am y datblygiad:

Hydref 2023
Darllenwch gylchlythyr
Gaeaf 2023
Darllenwch gylchlythyr

Y newyddion diweddaraf a datblygiadau ym dir ger Stad Ddiwydiannol Pentraeth

Pentraeth, Anglesey render artwork

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw ym Mhentraeth, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Sir Ynys Môn. Dilynwch y ddolen isod i ymgeisio.
Ymgeisiwch Rŵan