Skip to content
12 Cartrefi
Stad Bryn Glas, Brynsiencyn, Ynys Môn LL61 6RD
Ar y gweill

Dyddiad cwblhau arfaethedig: Gwanwyn 2024

This £2.9 million development will provide 12 new energy efficient, affordable homes being built by DU Construction on behalf of ClwydAlyn and in partnership with Anglesey County Council and the Welsh Government.

The mixture of homes comprises of 2, 3 and 4 bedroom homes and a 2 bedroom bungalow. All homes are built as lifetime homes and designed so that they are easily adaptable to the changing needs of the residents, helping them to live independently for longer.

Bydd y datblygiad £2.9 miliwn hwn yn darparu 12 o gartrefi newydd fforddiadwy effeithlon o ran ynni, yn cael eu hadeiladu gan DU Construction ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.

Mae’r gymysgedd o gartrefi yn cynnwys cartrefi 2, 3 a 4 ystafell wely a byngalo 2 ystafell wely. Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.

Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

• Pympiau gwres ffynhonnell aer
• Paneli trydan solar
• Batris storio trydan solar
• Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
• Cyfleusterau gwefru ceir trydan
• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
• Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

Mae 12 o gartrefi ar y safle

  • 1 x 4 Cartref 4 Ystafell Wely
  • 1 x 2 Byngalo 2 Ystafell Wely
  • 6 x 2 Cartref 2 Ystafell Wely
  • 4 x Cartref 3 Ystafell Wely

Manteision y cartrefi


Effeithlon o ran ynni
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio’r technolegau a deunyddiau diweddaraf, i sicrhau bod eich cartref yn gost effeithiol i’w redeg.
Cefnogaeth gyfeillgar
Cefnogaeth gyfeillgar gan eich Swyddog Tai penodol.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Mae FyClwydAlyn yn wasanaeth ar-lein am ddim, diogel i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.

Y newyddion diweddaraf am y datblygiad:

Gwanwyn 2023
Darllenwch y cylchlythyr
Haf 2023
Darllenwch y cylchlythyr

Y newyddion diweddaraf a datblygiadau ar Stad Bryn Glas

ClwydAlyn ground breaking ceremony, Anglesey, Stad Bryn Glas
Prosiect tai newydd yn dechrau gyda seremoni torri tir
Nododd seremoni torri’r dywarchen ddechrau’r gwaith ar brosiect £2.9m, a fydd yn gweld 12 o gartrefi’n cael eu hadeiladu yn Ynys Môn.
Darllenwch fwy
Land at Stad Bryn Glas, Anglesey, Brynsiencyn

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw ar Stad Bryn Glas, Brynsiencyn, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Sir Ynys Môn. Dilynwch y ddolen isod i ymgeisio.
Ymgeisiwch Rŵan