Dyddiad cwblhau arfaethedig: Gaeaf 2027
Bydd y datblygiad hwn, sy’n werth £3.3 miliwn, yn darparu 9 o gartrefi fforddiadwy, effeithlon o ran ynni, yn Llanfechell, Ynys Môn. Mae’r cartrefi yn cael eu hadeiladu gan DU Construction ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.
Mae’r cymysgedd o gartrefi yn cynnwys cartrefi 2 a 3 ystafell wely. Byddant yn gartrefi am oes ac yn cael eu dylunio fel bod modd eu haddasu’n hawdd i ateb anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol am gyfnod hwy. Byddant yn cael eu dyrannu drwy Gofrestr Tai yr Un Llwybr Mynediad at Dai a Tai Teg.
Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.
Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:
- Pympiau gwres ffynhonnell aer
- Paneli trydan solar
- Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
- ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
- Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.
Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.
Mae 9 o gartrefi ar y safle
- 1 x Byngalo 2 ystafell wely
- 2 x Tŷ 2 ystafell ely
- 6 x Tŷ 3 ystafell
Llanfechell, Ynys Môn