Skip to content
55 Cartrefi
Melin / Mart y Fali, LL65 3DP
Ar y gweill

Dyddiad cwblhau arfaethedig: Haf 2024

Datblygiad 55 o gartrefi newydd fforddiadwy effeithlon o ran ynni, yn cael eu hadeiladu gan Williams Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.

Mae’r gymysgedd o gartrefi yn cynnwys fflatiau 1 ystafell wely a chartrefi 2, 3 a 4 ystafell wely. Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.

Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

  • Pympiau gwres ffynhonnell aer
  • Paneli trydan solar
  • Batris storio trydan solar
  • Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
  • Cyfleusterau gwefru ceir trydan
  • ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
  • Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

Mae 55 o gartrefi ar y safle

  • 8 x Fflat 1 Ystafell Wely
  • 26 x Cartref 2 Ystafell Wely
  • 16 x Cartref 3 Ystafell Wely
  • 4 x Cartref 4 Ystafell Wely

 

Manteision y cartrefi


Effeithlon o ran ynni
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio’r technolegau a deunyddiau diweddaraf, i sicrhau bod eich cartref yn gost effeithiol i’w redeg.
Cefnogaeth gyfeillgar
Cefnogaeth gyfeillgar gan eich Swyddog Tai penodol.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Mae FyClwydAlyn yn wasanaeth ar-lein am ddim, diogel i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.

Y newyddion diweddaraf am y datblygiad:

Gwanwyn 2022
Darllenwch gylchlythyr
Gaeaf 2023
Darllenwch gylchlythyr

Y newyddion diweddaraf a datblygiadau ar gyfer Melin / Mart y Fali

Plant lleol yn nodi dechrau’r gwaith ar ddatblygiad newydd yn Ynys Môn
Darllenwch fwy

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw ym Melin / Mart y Fali, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Sir Ynys Môn. Dilynwch y ddolen isod i ymgeisio.
Ymgeisiwch Rŵan