Skip to content

Mae ClwydAlyn wedi ymroi i ddarparu gwasanaeth hollol gynhwysol sy’n dathlu gwahaniaethau, gan wneud i’n staff a’n preswylwyr deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi yn llawn.

Byddwn yn gofyn i’n preswylwyr lenwi ffurflen ‘Dod i’ch Adnabod’ fel y gallwn barhau â’n cenhadaeth i ddileu gwahaniaethu a hybu cyfle cyfartal i bawb. Byddwn yn monitro ac yn dadansoddi’r wybodaeth ar y ffurlenni yn ofalus er mwyn gwneud yn siŵr bod ein prosesau yn deg, yn dryloyw ac yn rhoi cyfle cyfartal i’n holl ddefnyddwyr gwasanaeth, preswylwyr ac ymgeiswyr.

Yn ogystal â hyn, rydym yn credu ei bod yn hollbwysig bod pawb yn gallu defnyddio ein gwasanaethau yn deg. Bydd derbyn mewnbwn gwerthfawr gan breswylwyr yn ein galluogi i gynllunio a darparu gwasanaethau yn fwy effeithiol a’u teilwra i denantiaid a defnyddwyr gwasanaeth unigol. Gall ein preswylwyr ddewis a ydynt am rannu eu gwybodaeth bersonol neu beidio, felly os yw’n well gan breswylwyr beidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol, gallant ddewis yr opsiwn ‘mae’n well gen i beidio’ ar ein ffurflen.

Bydd ein rhybudd preifatrwydd yn esbonio rhagor am sut a pham rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon. I weld ein rhybudd preifatrwydd, cliciwch ar y cyswllt isod. Privacy and Cookies Policy – Clwydalyn