Symudodd Ann Walker (yng nghanol y llun), a’i gŵr Steve i Lys Nant Mawr, cymuned i bobl dros 55 oed ym Mwcle, ddwy flynedd yn ôl. Mae Ann wrth ei bodd yn cadw’n heini ac mae ganddi agwedd benderfynol iawn.
Wrth iddi ddod i adnabod ei chymdogion, sylweddolodd Ann yn fuan iawn y gallai ei phrofiad fel hyfforddwr ffitrwydd fod yn fuddiol iawn i’w chymuned. Defnyddiodd ei diddordeb mawr mewn ymarfer corff ac ysbryd cymunedol i sefydlu dosbarth ‘Aerobeg Cadair’ sydd wedi dod yn ychwanegiad poblogaidd iawn i amserlen wythnosol y cynllun tai!
“Dechreuais gynnal sesiynau aerobeg cadair gan fy mod i wrth fy modd yn addysgu a helpu pobl eraill; a’u gweld yn dod yn eu blaenau. Mae’r dosbarth yn helpu i ddod â phawb at ei gilydd fel cymuned.”
Roedd Ann yn awyddus i roi cyfle i’w chymdogion symud, cymdeithasu a chael hwyl. Fel arfer bydd tua wyth o breswylwyr yn cymryd rhan yn sesiynau aerobeg cadair Ann.
Ychwanegodd Ann: “Does dim ots os mai un yn unig sy’n dod i’r sesiwn, rwy’n dal i gynnal y dosbarth gan ei fod yn gwneud i bawb deimlo’n dda!
“Mae’n llawer o hwyl; rydyn ni bob amser yn chwerthin ac yn gadael gyda gwên ar ein hwynebau. Ac mae pobl wedi dweud wrtha i fod y sesiynau yn helpu eu symudedd.”
Mae Ann bob amser yn ystyriol o allu corfforol y cyfranogwyr ac unrhyw gyflyrau iechyd sydd ganddynt. Mae hi’n cynnig dewisiadau eraill o ran ymarferion wrth i’r dosbarth fynd yn ei flaen, gan sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan.
Yn ôl Ann, mae ymarferion fel Ioga a Pilates yn fan cychwyn da iawn: “Wrth i ni heneiddio, mae’n fwy pwysig nag erioed i ni ofalu am ffyrfder y cyhyrau. Mae hyd yn oed ychydig bach o ymarfer yn gallu ein helpu i ddelio â chyflyrau sy’n gysylltiedig â heneiddio, fel arthritis.
Tair Ffordd o Gadw’n Iach wrth i ni Heneiddio
Does dim rhaid i chi ymuno â’r gampfa neu hyfforddi ar gyfer marathon i fod yn egnïol. Yn union fel Ann a’i chymdogion yn Llys Nant Mawr, mae dechrau cynnwys rhai symudiadau ysgafn yn eich trefn wythnosol yn fan cychwyn gwych! Dyma rai awgrymiadau defnyddiol ar gyfer ffordd o fyw iach!
- Cerdded ychydig ac yn aml
Mae mynd am dro bach sawl gwaith yr wythnos yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Ni waeth a ydych chi’n cerdded i’r siop, neu’n crwydro o amgylch yr ardd; yr hyn sy’n bwysig yw cadw eich corff a’ch cymalau i symud! Ceisiwch symud ychydig bob diwrnod os yw’n bosibl.
- Mynd allan i gael awyr iach
Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru i gael tirweddau sy’n cynnwys ardaloedd braf glan-môr ac arfordirol, cefn gwlad, trefi hanesyddol a phentrefi. Mae treulio amser yn yr awyr agored yn gallu codi’r hwyliau a rhoi cyfle i chi gael fitamin D sydd mor bwysig i ni. Os ydych yn cael trafferth cerdded, mae eistedd ar fainc a mwynhau’r awyr iach yn fuddiol iawn hefyd.
- Daliwch ati i gymdeithasu!
Gall cadw mewn cysylltiad â phobl eraill fod yr un mor bwysig â’n hiechyd corfforol, ac mae rhai astudiaethau’n honni bod bywydau cymdeithasol prysur yn gallu ychwanegu blynyddoedd lawer i’n disgwyliad oes! Ni waeth a ydych chi’n mwynhau cymryd rhan mewn dosbarth ymarfer corff cymunedol fel sesiwn Aerobeg Cadair Ann, cyfarfod ffrind am baned neu mynd i ddigwyddiad yn y ganolfan gymunedol leol; gall sgwrs dda gyda ffrind neu gymydog wneud pob diwrnod yn well.
Mae Llys Nant Mawr yn gynllun tai i bobl hŷn a ddarperir gan ClwydAlyn; mae’n cynnwys 30 o fflatiau, ynghyd ag ystafell fyw gyffredin, a chynhelir gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd ar y safle.
I gael rhagor o wybodaeth am dai ClwydAlyn, ewch i: www.clwydalyn.co.uk